Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 22 Medi 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Medi 2009
NDM4273 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd i Gymru.
Mae’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd i Gymru ar gael trwy’r ddolen ganlynol:
h
ttp://wales.gov.uk/topics/businessandeconomy/publications/greenjobs/?skip=1&lang=cy
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 17 Medi 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4273
1. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r Strategaeth Swyddi Gwyrdd yn llwyddo i gyflwyno cynllun i ddefnyddio a datblygu technolegau newydd, technolegau sy’n datblygu na diwydiannau gwyrdd newydd yng Nghymru.
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu nad yw’r strategaeth hon yn ystyried hanfodion busnes Busnesau Bach a Chanolig nac ychwaith yn hyrwyddo’r agenda cynaliadwyedd mewn modd gwirioneddol arloesol a radical.