Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 22 Hydref 2008
Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Hydref 2008
Dadl Fer
NDM4041 Alun Davies (Canolbarth a Gorllewin Cymru): Cymru Wledig a Threfol: Cysylltu ein cymunedau.
NDM4039
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2009-10, fel y nodir yn nhabl 1 y "Cynigion ar gyfer Cyllideb Comisiwn Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2009-10”, a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad ar 15 Hydref 2008; ac y caiff ei chynnwys y Cynnig Cyllideb Blynyddol o dan Reol Sefydlog 27.17(ii).
NDM4040
William Graham (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi:
a) yr argyfwng bancio dwys a sylfaenol sydd wedi taro economïau’r gorllewin;
b) Y perygl y bydd economïau’r gorllewin yn mynd i gyfnod o ddirwasgiad economaidd;
c) Y bydd yr argyfwng bancio a’i ganlyniadau economaidd tebygol yn effeithio ar fywydau pobl ledled Cymru;
d) Bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi gosod blaenoriaethau ei chyllideb a’i hamcanion polisi pan yr oedd amgylchiadau economaidd yn fwy hynaws nag ydynt heddiw.
2. Yn credu:
a) Adeg argyfwng cenedlaethol bod gan bob plaid wleidyddol a gynrychiolir yn y Cynulliad ddyletswydd i gydweithio pan fydd hynny'n bosibl i amddiffyn a hyrwyddo lles pobl Cymru;
b) Er bod nifer o lifrau economaidd yn aros ar lefel y wladwriaeth, gall Llywodraeth Cynulliad Cymru hefyd addasu ei gwariant, ei blaenoriaethau a’i pholisïau ei hun i ymateb i’r sefyllfa economaidd sy’n gwaethygu;
c) Bod yr angen am wariant cyhoeddus effeithlon a chraffu effeithiol yn cael ei ailddyblu ar adeg o bwysau economaidd;
d) Y dylai’r Prif Weinidog gynnull cyfarfod o arweinwyr y Pleidiau i gytuno lle ceir consensws ar gyfer gweithio'n hollbleidiol.
NDM4042
Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi pwysigrwydd rhaglenni hyfforddi athrawon o ansawdd uchel ar gyfer recriwtio a chadw gweithlu proffesiynol llawn cymhelliant.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:
a) sicrhau bod athrawon yn cael eu hamddiffyn rhag cael eu cam-drin yn eu gwaith;
b) rhoi sylw i’r argyfwng posibl o ran cadw penaethiaid;
c) sicrhau bod rhaglenni hyfforddi athrawon yng Nghymru o’r ansawdd gorau;
d) creu cyfleoedd i athrawon ddatblygu eu sgiliau a datblygu eu gyrfa mewn amgylchedd addysgu.
Gwelliannau a Gyflwynwyd ar 17 Hydref 2008
NDM4040
1. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
1. Ym mhwynt 1(d) dileu popeth ar ôl “hamcanion polisi” a rhoi yn ei le “o fewn Setliad Adolygiad Gwariant Cynhwysfawr dros 3 blynedd.”
2. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
2. Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le bwynt 2 newydd
Yn credu mai cyfrifoldeb Llywodraeth y Cynulliad yw sicrhau y defnyddir pob lifer posibl o fewn ei rheolaeth er mwyn mynd i’r afael â’r sefyllfa economaidd sy’n datblygu, a:
a) yn cymeradwyo cynnull Uwchgynhadledd Economaidd gyffredinol a fydd o gymorth â’r ymdrech hwn;
b) yn croesawu menter Llywodraeth y Cynulliad i friffio holl lefarwyr y gwrthbleidiau ynghylch y sefyllfa gyfredol.
3. Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Cynnwys ar ddiwedd is-bwynt 2d):
‘, gyda golwg ar liniaru’r beichiau ariannol sy’n wynebu teuluoedd ledled Cymru;
NDM4042
1. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘adolygu’r arfer o ysgolion yn dileu uwch swyddi rheoli oherwydd pwysau cyllidebol.’
2. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘rhoi sylw i’r prinder cyllid wrth weithredu cam olaf y Cytundeb Cenedlaethol ar Lwyth Gwaith Athrawon ar gyfer Medi 2009.’
Gellir dod o hyd i'r Cytundeb Cenedlaethol ar Lwyth Gwaith Athrawon ar gyfer mis Medi 2009 yn y linc a ganlyn:
http://www.tda.gov.uk/remodelling/nationalagreement.aspx
3. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
‘sicrhau bod athrawon wedi cael eu hyfforddi’n briodol i adnabod anghenion addysgol arbennig posibl’.
4. William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
‘Yn gresynu wrth arafwch Llywodraeth Cynulliad Cymru wrth weithredu argymhellion yr Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb.’
Gellir dod o hyd i'r Adolygiad Cenedlaethol o Ymddygiad a Phresenoldeb yn y linc a ganlyn:
http://wales.gov.uk/topics/educationandskills/educationskillsnews/2233523/?lang=en
5. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Ym mhwynt 2 ychwanegu “barhau i” ar ôl “Lywodraeth Cynulliad Cymru i”
6. Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu pwynt 2b a rhoi yn ei le:
“cefnogi datblygiad proffesiynol Penaethiaid a chamau i’w cadw”