Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 16 Mehefin 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2009
NDM4244 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4:
Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol (Cymru a Lloegr) ( Diwygio) 2009 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 20 Mai 2009.
NDM4246 Brian Gibbons (Aberavon)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.4, yn cytuno y dylai darpariaethau’r Mesur Tlodi Plant, i’r graddau y mae’r darpariaethau hynny yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Mehefin 2009 yn unol â Rheol Sefydlog 26.2(i).
I weld copi o’r Mesur Tlodi Plant ewch i:
h
ttp://services.parliament.uk/bills/2008-09/childpoverty.html
NDM4247 Gwenda Thomas (Castell-nedd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.34:
Yn cymeradwyo Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009
Gosodwyd y Gorchymyn drafft a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 16 Mehefin 2009;
Gosodwyd adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 3 ar y Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Lles Cymdeithasol) 2009 gerbron y Cynulliad ar 2 Ebrill 2009.
NDM42478 Gwenda Thomas (Castell-nedd)