24/02/2016 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 17/02/2016   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/02/2016

Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 24 Chwefror 2016

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Chwefror 2016

Dadl Fer

NDM5975 Russell George (Sir Drefaldwyn)

Darparu ar gyfer canolbarth Cymru - pam fod angen signal ffonau symudol cyffredinol i drawsnewid economi canolbarth Cymru

NDM5974 Ann Jones (Dyffryn Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Gynlluniau Strategol Cymraeg mewn addysg, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Rhagfyr 2015.

Sylwer: Gosodwyd yr ymateb gan Lywodraeth Cymru ar 17 Chwefror 2016.

NDM5976 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd rhoi'r grym i unigolion a grwpiau cymunedol fynd i'r afael â materion o bwys lleol;

2. Yn croesawu'r ymgyrch i sbarduno refferendwm ar gyfer cyflwyno maer a etholir yn uniongyrchol i Gaerdydd ac yn nodi'r rhan y gallai rôl debyg ei chwarae ledled Cymru o ran gwella democratiaeth, atebolrwydd a'r broses o wneud penderfyniadau ar y lefel leol;

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau i feithrin cenedl o ddinasyddion gweithgar a gwybodus sy'n cymryd rhan ac yn ymgysylltu drwy:

(a) cyflwyno refferenda ar gynlluniau arfaethedig i uno cynghorau a chynyddu treth gyngor awdurdodau lleol uwchlaw trothwy penodol fel bod unigolion yn cael mwy o lais mewn perthynas â sut y caiff penderfyniadau eu gwneud yn eu hardal;

(b) cyflwyno pwerau newydd i wella'r broses o gynnwys unigolion mewn penderfyniadau lleol allweddol, fel yr hawl gymunedol i wneud cais a'r hawl gymunedol i herio, oll o dan agenda hawliau cymunedol; ac

(c) gostwng y trothwy ar gyfer deiseb i sbarduno refferendwm ar feiri a etholir yn uniongyrchol mewn ardal.

Cynigion a gyflwynwyd ar 15 Ionawr 2016

NNDM925 Mick Antoniw (Pontypridd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad Pwyllgor y Rhanbarthau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ionawr 2016.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Chwefror 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5976

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 2.

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Dileu pwynt 3(a) a rhoi yn ei le:

cyflwyno pleidlais sengl drosglwyddadwy ar gyfer etholiadau llywodraeth leol er mwyn sicrhau bod cynghorwyr yn fwy atebol i'w hetholwyr.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Chwefror 2016

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5925

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylai Cymru a'r DU barhau i fod yn aelodau o'r UE ac yn penderfynu meithrin deialog gadarnach gyda sefydliadau Ewropeaidd fel Pwyllgor y Rhanbarthau.

NDM5974

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnwys darpariaeth addysg bellach mewn Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg yn y dyfodol i hyrwyddo argaeledd cyrsiau cyfrwng Cymraeg neu ddwyieithog ar gyfer dysgwyr ôl-16.

NDM5976

3. Elin Jones (Ceredigion)

Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:

Yn credu bod cynigion Plaid Cymru ar gyfer ymgysylltu lleol, a nodir yn y papur ar ddiwygio gwasanaethau cyhoeddus, yn darparu sail gadarnhaol i gyrraedd y nod o rymuso unigolion yn y Cynulliad nesaf.

'Diwygio Gwasanaethau Cyhoeddus: Papur Polisi Plaid Cymru '