Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod yn y Dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Mai 2013
NNDM5253 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n ymwneud â gwaharddebau i atal niwsans ac atal tarfu ar bersonau, gorchmynion ymddygiad troseddol a’r trothwy cymunedol, i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill Documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill 2013-14 – UK Parliament Website
NNDM5254 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona sy’n cymhwyso’r fframwaith rheolaethau cyllid cyfalaf yn Rhan 1 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 i Brif Gwnstabliaid yng Nghymru i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Mae Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol wedi’i osod yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mai 2013 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(i).
I weld copi o’r Bil ewch i:
Bill Documents – Anti-social Behaviour, Crime and Policing Bill 2013-14 – UK Parliament Website