24/09/2014 - Cynigion â dyddiad trafod a gwelliannau

Cyhoeddwyd 18/09/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 25/09/2014

Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 24 Medi 2014

 

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Medi 2014

 

Dadl Fer

 

NDM5573 Antoinette Sandbach (Gogledd Cymru)

 

Ansawdd mynediad - pwysigrwydd gofal plant o ran sicrhau bod teuluoedd incwm isel neu deuluoedd un rhiant yn gallu cael mynediad i'r gweithle

 

NDM5570 Paul Davies (Preseli Sir Benfro)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

Yn nodi galwadau gan Gymdeithas Feddygol Prydain am ymchwiliad annibynnol llawn i wasanaethau'r GIG yng Nghymru ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i gomisiynu ymchwiliad o'r fath cyn gynted â phosibl.

 

NDM5571 Elin Jones (Ceredigion)

 

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn credu y dylai'r berthynas rhwng cenhedloedd yr ynysoedd hyn newid yn dilyn y refferendwm ar annibyniaeth yn yr Alban;

 

2. Yn credu bod pobl Cymru yn sofran ac mai nhw ddylai benderfynu ar natur a chyflymder datblygiadau cyfansoddiadol yn y wlad hon; a

 

3. Yn galw ar y Prif Weinidog i ddechrau trafodaethau gyda Llywodraeth y DU ar unwaith i hwyluso'r broses o drosglwyddo cyfrifoldeb dros swyddogaethau i Gymru, er mwyn ail-gydbwyso pwerau rhwng y cenhedloedd.

 

NDM5574 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn croesawu'r ffaith yr oedd pobl 16 a 17 oed yn gallu pleidleisio yn y refferendwm diweddar ar annibyniaeth yr Alban, sef y tro cyntaf iddynt gael gwneud hynny mewn etholiad arwyddocaol yn y Deyrnas Unedig;

 

2. Yn cydnabod pwysigrwydd grymuso pobl ifanc yng Nghymru i ymgysylltu â gwleidyddiaeth a chyfrannu eu safbwyntiau a'u syniadau i helpu i lunio'r cymunedau lle y maent yn byw;

 

3. Yn nodi adroddiad y Comisiwn Etholiadol yn 2014 a ganfu nad yw 49% o bobl rhwng 16 a 17 oed yn y DU wedi cofrestru i bleidleisio ac yn credu bod angen gwneud mwy i annog pobl ifanc i gymryd rhan mewn democratiaeth; a

 

4. Yn croesawu'r camau sy'n cael eu cynnig drwy Fil Cofrestru Pleidleiswyr y DU i gynyddu nifer y bobl ifanc sy'n cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth drwy rymuso swyddogion cofrestru etholiadol yng Nghymru i wella prosesau rhannu data a chynyddu nifer y bobl sydd wedi cofrestru o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.

 

Mae'r adroddiad 'The quality of the 2014 electoral registers in Great Britain' ar gael yma: http://www.electoralcommission.org.uk/__data/assets/pdf_file/0005/169889/Completeness-and-accuracy-of-the-2014-electoral-registers-in-Great-Britain.pdf (Saesneg yn unig)

 

Mae'r Bil Cofrestru Pleidleiswyr [HL] 2014-15 ar gael yma: http://services.parliament.uk/bills/2014-15/voterregistration.html (Saesneg yn unig)

 

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Medi 2014

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

 

NDM5570

 

1. Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi pryderon y BMA ynghylch anallu Llywodraeth Cymru i recriwtio a chadw gweithlu meddygol digonol yn y GIG.

 

2. Elin Jones (Ceredigion)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn gresynu at doriadau parhaus Llywodraeth y DU i wariant cyhoeddus a'r effaith ar fuddsoddi yn ein GIG.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Medi 2014

 

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:

 

NDM5570

 

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn nodi galwadau gan y BMA y dylid rhoi ystyriaeth i lefelau staffio diogel a gofynnol ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a chymunedol.

 

NDM5571

 

1.  Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

 

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

 

yn croesawu'n fawr benderfyniad diamwys yr Alban i bleidleisio yn erbyn annibyniaeth ac yn edrych ymlaen at weithio gyda phob rhan o'r Deyrnas Unedig i greu undeb cryfach at y dyfodol.

 

2. Jane Hutt (Bro Morgannwg), Aled Roberts (Gogledd Cymru):

 

Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:

 

1. Yn croesawu'r ffaith fod pobl yr Alban wedi dewis aros yn aelod o deulu cenhedloedd y Deyrnas Unedig;

 

2.         Yn credu bod yn rhaid inni hyrwyddo undeb newydd ar gyfer holl bobl y DU, gan gynnwys Cymru; a

 

3.         Yn galw am weithredu ar fyrder Rannau 1 a 2 o'r Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru a sefydlu confensiwn cyfansoddiadol ar draws y DU i ddrafftio cynllun ar gyfer undeb newydd.

 

Mae Rhan 1 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2012/11/Welsh-WEB-main-report.pdf  

 

Mae Rhan 2 o adroddiad y Comisiwn ar Ddatganoli yng Nghymru i'w gweld drwy ddilyn y linc hwn: http://commissionondevolutioninwales.independent.gov.uk/files/2014/03/Grymuso-a-Chyfrifoldeb-Pwerau-Deddfwriaethol-i-Gryfhau-Cymru.pdf    

 

NDM5574

 

1.  Paul Davies (Preseli Sir Benfro):

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn cydnabod y gwaith y mae'r Ddraig Ffynci wedi'i wneud dros nifer o flynyddoedd i gynyddu cyfranogiad pobl ifanc mewn gwleidyddiaeth ac yn credu y dylai Llywodraeth Cymru adfer y cyllid hwn.