24/10/2012 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 24 Hydref 2012

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Hydref 2012

NDM5046 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.91:

Yn cytuno y caiff Darren Millar gyflwyno Bil er mwyn gweithredu'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 13 Hydref 2011 o dan Reol Sefydlog 26.90.

Mae’r wybodaeth cyn y balot ar gael drwy fynd i:

http://www.cynulliadcymru.org/cy/bus-home/bus-legislation/bill_ballots/bill_013.htm

Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Hydref 2012

Dadl Fer

NDM5075

Lynne Neagle (Tor-faen): Y Storm Berffaith

Asesu effaith gronnol diwygio lles mewn cysylltiad â thai yng Nghymru.

NDM5072 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried Adroddiad y Pwyllgor Busnes ‘Newidiadau arfaethedig i Reol Sefydlog 18 mewn perthynas ag aelodaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus’ a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012; a

2. Yn cymeradwyo’r cynnig i adolygu Rheol Sefydlog 18, fel y nodir yn Atodiad B i Adroddiad y Pwyllgor Busnes.

NDM5073 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar Bwerau Benthyg a Dulliau Arloesol o Ddefnyddio Arian Cyfalaf a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2012.

Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2012.

NDM5074

Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi dull Llywodraeth Cymru o reoli adnoddau naturiol yng Nghymru, sef ar lefel yr ecosystem.

2. Yn cydnabod gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i fusnesau ac i gymunedau, yn ogystal â’i fanteision i fioamrywiaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) sicrhau bod y dull rheoli ar lefel yr ecosystem yn cael ei ddefnyddio ar draws Llywodraeth Cymru; a

b) hyrwyddo gwerth y dull rheoli ar lefel yr ecosystem i'r cyhoedd yng Nghymru ac i fusnesau yng Nghymru.

Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Hydref 2012

NDM5076 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Linday Whittle (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru).

NDM5077 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Jocelyn Davies (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn lle Lindsay Whittle (Plaid Cymru).

NDM5078 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol Elin Jones (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Deisebau yn lle Bethan Jenkins (Plaid Cymru).

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 18 Hydref 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5074

1. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Mewnosod ar ddiwedd pwynt 1:

“yn ogystal â gwerth dull rheoli llwyddiannus ar lefel yr ecosystem i economi Cymru.”

2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)

Ychwanegu fel pwynt 3b) newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:

hybu'r defnydd o’r dull rheoli ar lefel yr ecosystem ar draws pob lefel o lywodraeth yng Nghymru, yn cynnwys llywodraeth leol, ac ymgysylltu â dinasyddion lleol drwy ddarparu rhagor o wybodaeth am faterion ymarferol y dull rheoli newydd ar lefel yr ecosystem er mwyn gallu defnyddio gwybodaeth leol;

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Hydref 2012

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM5074

1. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

datblygu dealltwriaeth gyffredin o’r dull o reoli ar lefel yr ecosystem gyda rhanddeiliaid, yn ogystal â darparu rhagor o fanylion ynghylch sut y dylid cyflawni’r dull gweithredu’n ymarferol drwy Gorff Adnoddau Naturiol Cymru

2. William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 3:

sicrhau pan fydd y sector preifat yn cyflenwi gwasanaethau ecosystem ei fod yn cael ei dalu’n briodol am y gwaith cyflenwi hwnnw