Cynigion a gwelliannau i'w trafod ar 24 Tachwedd 2015
Cynigion a gyflwynwyd ar 17 Tachwedd 2015
NDM5884 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r cynnydd diweddaraf tuag at gyflawni targed uwch Llywodraeth Cymru o 10,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y Cynulliad hwn, a bod 91 y cant o'r targed hwn wedi'i gyflawni.
Yr ystadegau diweddaraf ar y ddarpariaeth o dai fforddiadwy yng Nghymru 2014-15 (Saesneg yn unig)
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Tachwedd 2015
NDM5893 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Yn cymeradwyo Bil Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru).
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 19 Tachwedd 2015
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5884
1. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi'r angen i ddod ag argyfwng tai Cymru i ben ac yn gresynu at y ffaith nad oes unrhyw gysylltiad rhwng targed tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru a nifer y bobl sydd angen tai.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi gwaith ymchwil yr Athro Holmans sy'n nodi os y bwriedir cwrdd â'r angen a'r galw am dai yng Nghymru yn y dyfodol, mae angen dychwelyd i gyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron 20 mlynedd a chynnydd yng nghyfradd twf tai fforddiadwy.
Adroddiad Sefydliad Polisi Cyhoeddus i Gymru - 'Future Need and Demand for Housing in Wales' (Saesneg yn unig)
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid dyblu'r targed ar gyfer adeiladu tai fforddiadwy yn ystod tymor nesaf y Cynulliad.