26/05/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 26 Mai 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 19 Mai 2010

Dadl Fer

NDM4482 David Melding (Canol De Cymru): Gwella cyrhaeddiad addysgol plant sy’n derbyn gofal a’r rheini sy’n gadael gofal.

NDM4483

Jonathan Morgan (Gogledd Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar Cymunedau yn Gyntaf, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Chwefror 2010.

Noder: Ymateb y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Ebrill 2010.

NDM4484

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddiddymu’r cymhorthdal ar gyfer y cyswllt awyr rhwng Caerdydd ac Ynys Môn.

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 21 Mai 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4484

1. Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn gresynu wrth y diffyg tryloywder y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi'i ddangos yng nghyswllt defnyddio arian trethdalwyr ar gyfer y cymhorthdal.

2. Nick Ramsay (Mynwy)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatgelu ar unwaith faint o arian cyhoeddus sydd wedi cael ei wario ar y cymhorthdal ar gyfer y cyswllt rhwng y gogledd a'r de.