Cynigion a gwelliannau i'w trafod yn y dyfodol
Cynigion a gyflwynwyd ar 27 Chwefror 2015
NNDM5713
Aled Roberts
Paul Davies
Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi cyfraniad economaidd diwydiant dur Cymru a'r miloedd o swyddi y mae'n eu cefnogi;
2. Yn gresynu at y ffaith bod y mewnforion tramor sy'n llifo i mewn i'r farchnad wedi creu sefyllfa anghyfartal; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu'r siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydeinig a fydd yn arwain at sefyllfa lle bydd pob proses gaffael llywodraeth mewn perthynas â barrau atgyfnerthu dur carbon yn bodloni safon cyrchu cyfrifol BES 6001.
Mae'r siarter dur cynaliadwy Prydeinig ar gael yma:
http://www2.eef.org.uk/NR/rdonlyres/04940D4A-E15E-43A5-8C41-51CD7EE4E13F/24323/TheCharterforBritishSustainableSteel1.pdf (Saesneg yn unig)
Cefnogir gan:
Mike Hedges (Dwyrain Abertawe)
Ann Jones (Dyffryn Clwyd)
Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Keith Davies (Llanelli)
Mark Isherwood (Gogledd Cymru)
Julie Morgan (Gogledd Caerdydd)
John Griffiths (Gorllewin Casnewydd)
Byron Davies (Gorllewin De Cymru)
Peter Black (Gorllewin De Cymru)