28/04/2010 - Cynigion â Dyddiad Trafod a Gwelliannau

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 28 Ebrill 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 21 Ebrill 2010

Dadl Fer

NDM4459

Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru): Llywodraethu’r corfforaethau - gwersi i’w dysgu o Visteon UK

NDM4460

Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn gresynu wrth y cynnydd diweddaraf mewn diweithdra yng Nghymru;

NDM4461 Mike German (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd i Lifogydd yng Nghymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Chwefror 2010.

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn y Swyddfa Gyflwyno ar  21 Ebrill 2010   

NDM4462 Gareth Jones (Aberconwy)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Menter a Dysgu ar y Strategaeth Gweithgynhyrchu osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Chwefror 2010

Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Ebrill 2010

Motions tabled on 24 March 2010

Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Mawrth 2010

NDM4453

Eleanor Burnham (Gogledd Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.103:

Yn caniatáu i Eleanor Burnham gyflwyno Mesur Arfaethedig Aelod er mwyn rhoi ei heffaith i'r wybodaeth cyn y balot a gyflwynwyd ar 8 Mai 2010 o dan Reol Sefydlog 23.102.

I weld y wybodaeth cyn y balot, defnyddiwch y linc isod:

h

ttp://www.cynulliadcymru.org/bus-home/bus-legislation/bus-leg-measures/business-legislative-ballots/business-measures-ballot-26-06-07/mb-043.htm

Gwelliannau a gyflwynwyd ar 23 Ebrill 2010

Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:

NDM4460

Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

2. ond yn nodi bod ystadegau diweddaraf y Farchnad Lafur yn dynodi gostyngiad yn nifer y sawl sy’n hawlio budd-dâl; a

3. yn croesawu’r camau a gymerir gan Lywodraeth y Cynulliad, gan gynnwys PROACT, i ddiogelu swyddi yng Nghymru ac yn edrych ymlaen at gynigion pellach mewn perthynas â chyflogaeth yn ei Rhaglen i Adnewyddu’r Economi.