Cynigion a Gwelliannau i’w Trafod ar 30 Mehefin 2009
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Mehefin 2009
NDM4253 Brian Gibbons (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 23.24:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru)
Gosodwyd y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Cynulliad ar 2 Mawrth 2009;
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Deddfwriaeth Rhif 2ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru) gerbron y Cynulliad ar 19 Mehefin 2009.
NDM4255 Brian Gibbons (Aberafan)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig ynghylch Plant a Theuluoedd (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) ac (c), sy’n codi o ganlyniad i’r Mesur.
NDM4254 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod y Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu'r patrwm sy'n dod i'r amlwg o ran darpariaeth ddysgu ôl-16, fel y nodir yn y papur "Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant: Y Patrwm ledled Cymru" ac yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed.
Anfonwyd copi o'r papur "Trawsnewid y Ddarpariaeth Addysg a Hyfforddiant: Y Patrwm ledled Cymru" mewn e-bost at Aelodau'r Cynulliad ar 23 Mehefin 2009.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Mehefin 2009
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu’r gwelliannau isod i gynigion:
NDM4253
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu bod y Mesur wedi methu â mynd i’r afael yn ddigonol â holl achosion tlodi plant, gan gynnwys tlodi tanwydd, tai gwael, llwyrddibyniaeth, teuluoedd yn chwalu a diweithdra.
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn gresynu wrth fethiant y Mesur i gydnabod y rôl arweiniol y gall y trydydd sector ei chwarae o ran mynd i’r afael ag achosion tlodi plant.
NDM4254
1. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod gweithredu’r Polisi Gweddnewid yn cynnwys darpariaeth a chefnogaeth ddigonol ar gyfer yr holl ddysgwyr ôl-16, gan gynnwys y rheini ag anghenion dysgu ychwanegol.
2. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Dileu “croesawu” a rhoi “nodi” yn ei le.
3. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Dileu “ac yn cydnabod y cynnydd sylweddol a wnaed.”
4. Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod gweithredu’r Polisi Gweddnewid yn cydnabod yn llawn y gwahanol heriau sy’n wynebu ardaloedd trefol a gwledig wrth ddarparu addysg ôl-16.
5. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:
Yn cydnabod bod angen cyllid cyfalaf sylweddol er mwyn gweithredu’r polisi gweddnewid.
6. Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi bod nifer o fodelau gweithredu arfaethedig yn datblygu sy’n gweddu i amgylchiadau lleol.