Cynigion a Gwelliannau i'w Trafod ar 30 Medi 2014
Cynigion a gyflwynwyd ar 24 Mehefin 2014
NDM5540 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Cyfiawnder Troseddol a'r Llysoedd sy'n ymwneud â throsedd esgeulustod bwriadol neu gamdriniaeth gan ofalwyr, i'r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Gosodwyd Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mehefin 2014 yn unol â Rheol Sefydlog 29.2(iii).
Gellir cael copi o'r Bil Cyfiawnder Troseddol a Llysoedd yma:
http://services.parliament.uk/bills/2014-15/criminaljusticeandcourts.html
Cynigion a gyflwynwyd ar 23 Medi 2014
NDM5581 Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cydnabod pwysigrwydd y Darlledwyr Gwasanaeth Cyhoeddus yng Nghymru.
Cynigion a gyflwynwyd ar 29 Medi 2014
NDM5588 Rosemary Butler (Gorllewin Casnewydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.14, yn ethol:
(i) William Powell (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn lle Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru);
(ii) Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol Cymru).
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 24 Medi 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5581
1. Aled Roberts (Gogledd Cymru):
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid diogelu cyllid ac annibyniaeth golygyddol darlledwyr iaith Gymraeg.
2. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu:
a) y dylid creu corff llywodraethu datganoledig o fewn Ymddiriedolaeth y BBC yn y DU;
b) y dylid penodi cynrychiolydd Cymru ar Ymddiriedolaeth y BBC drwy gytundeb ffurfiol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU; ac
c) y dylai bwrdd Ofcom gynnwys aelod sydd â chyfrifoldeb penodol dros gynrychioli Cymru.
3. Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn credu y dylid datganoli trwyddedu radio cymunedol i'r Cynulliad Cenedlaethol.
4. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi trydydd Adolygiad Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Ofcom y bwriedir ei gyhoeddi yr haf nesaf.
5. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y rôl y mae darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yn ei chwarae o ran cynyddu cyfranogiad yn y broses wleidyddol a'r dylanwad y maent yn ei gael ar fywyd diwylliannol ac economaidd yng Nghymru.
6. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau dyfodol yr holl ddarlledwyr gwasanaeth cyhoeddus yng Nghymru.
7. Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ystyriaeth o fecanweithiau i sicrhau atebolrwydd darlledwyr gwasanaeth cyhoeddus i'r Cynulliad hwn yn ogystal ag i Senedd y DU.
Gwelliannau a gyflwynwyd ar 25 Medi 2014
Cynnig bod y Cynulliad yn penderfynu mabwysiadu'r gwelliannau isod i gynigion:
NDM5581
1. Elin Jones (Ceredigion)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu at y dirywiad mewn rhaglennu lleol ar radio masnachol.