DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 23/01/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0008 - Caerdydd a Monopoly
Codwyd gan:
Jenny Randerson
Tanysgrifwyr:
Kirsty Williams 24/01/2008
Michael German 24/01/2008
Mick Bates 25/01/2008
Angela Burns 28/01/2008
Mark Isherwood 28/01/2008
Caerdydd a Monopoly
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi bod Caerdydd ar y rhestr fer ar gyfer cael lle ar fwrdd gêm "Monopoly Here and Now: The world Edition.”
Yn nodi’r bleidlais gyhoeddus ar www.monopoly.com
Yn credu y byddai cynnwys Caerdydd o fudd i Gaerdydd ac i Gymru yn ei chyfanrwydd drwy dwristiaeth a phroffil uwch ym mhedwar ban byd.
Yn annog yr holl Aelodau i fwrw eu pleidlais ar gyfer Caerdydd ac i annog etholwyr a chydweithwyr i wneud yr un peth.