DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG
A GYFLWYNWYD 07/04/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiantOPIN-2008- 0031 - Gweithredu Diwydiannol PCS
Codwyd gan: Leanne WoodTanysgrifwyr:
Gweithredu Diwydiannol PCS
Mae’r Cynulliad hwn yn nodi:
-bod aelodau undeb PCS yn yr Adran Gwaith a Phensiynau wedi cymryd rhan mewn gweithredu diwydiannol dros dâl ar 17eg a 18fed Mawrth;
-bod dros hanner staff yr Adran Gwaith a Phensiynau’n cael eu talu llai na £17,700 y flwyddyn, gyda rhai yn cael eu talu cyn lleied â £12,500;
- bod yr Adran wedi rhoi cynnig tâl 3-blynedd, a fyddai’n gwaethygu’r sefyllfa hon drwy ddarparu cynnydd blynyddol cyfartalog o 1% ar adeg pan mae chwyddiant dros 4%, ac sydd wedi’i wrthod gan fwyafrif llethol aelodau PCS;
Mae’r Cynulliad hwn yn cefnogi gweithredu aelodau PCS ac yn galw ar yr Adran Gwaith a Phensiynau i ailddechrau negodiadau ystyrlon.