DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 22/05/2008
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2008- 0040 - Gwaith Celf yn y Senedd
Codwyd gan:
Andrew RT Davies
Tanysgrifwyr:
David Melding 22/05/2008
Jonathan Morgan 22/05/2008
Mark Isherwood 22/05/2008
Angela Burns 22/05/2008
Alun Cairns 22/05/2008
Brynle Williams 23/05/2008
Darren Millar 28/05/2008
Paul Davies 28/05/2008
Gwaith Celf yn y Senedd
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo’r arddangosfa o waith celf yn y Senedd, gan gydnabod cyfraniad Aneurin Bevan at y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn ystod blwyddyn pen-blwydd y GIG yn 60 oed a chyfraniad Margaret Thatcher at gymdeithas Cymru, gan edrych dros Fae Caerdydd, un o brosiectau ailddatblygu mawr cyfnod Thatcher ac yn ein hatgoffa i gyd o’r trawsnewidiad o falurion palledig, methdaliad breuddwyd sosialaidd y 1970au i economi ffyniannus sy’n canolbwyntio ar y farchnad.
Yn gresynu bod ideoleg wleidyddol sy’n ceisio sensro celf yn methu cydnabod swyddogaeth celf o ran ysgogi dadl a barn.