DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 12/01/2009
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2009 - 0001 - Gwrthwynebu preifateiddio Swyddfa’r Post
Codwyd gan:
Leanne Wood and Chris Franks
Tanysgrifwyr:
Janet Ryder 15/01/2009
Mohammad Asghar 15/01/2009
Helen Mary Jones 15/01/2009
Rhodri Glyn Thomas 15/01/2009
Nerys Evans 15/01/2009
Gareth Jones 15/01/2009
Dai Lloyd 15/01/2009
Bethan Jenkins 15/01/2009
Trish Law 04/02/2009
Gwrthwynebu preifateiddio Swyddfa’r Post
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn gwrthwynebu’r cynllun arfaethedig i breifateiddio’r Post Brenhinol yn rhannol: gan roi degau o filoedd o swyddi yn y fantol yn ogystal â’r gwasanaethau a ddarperir gan swyddfeydd post ledled Cymru. At hynny, mae’r Cynulliad hwn yn credu bod agor y farchnad bost i gystadleuaeth:
wedi arwain at gau swyddfeydd post;
yn gwneud niwed i ddarpariaeth gyffredinol y gwasanaeth gan effeithio ar gymunedau ynysig a difreintiedig yn benodol.
Mae’r Cynulliad hwn hefyd yn credu bod Swyddfeydd Post yn gyfrwng allweddol wrth fynd i’r afael ag allgau cymdeithasol ac ariannol ac y dylid eu gwarchod er gwaethaf y pwysau masnachol.