DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 14/01/2009
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2009- 0003 - Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer Hepatitis C a Feirysol a Gludir yn y Gwaed
Codwyd gan:
Jenny Randerson
Tanysgrifwyr:
Paul Davies 20/01/2009
Peter Black 20/01/2009
Angela Burns 20/01/2009
Kirsty Williams 26/11/2009
Kirsty Williams 26/11/2009
Val Lloyd 26/01/2009
Chris Franks 26/01/2009
Michael German 26/01/2009
Darren Millar 26/01/2009
Alun Davies 26/01/2009
Joyce Watson 26/01/2009
Trish Law 04/02/2009
Mick Bates 06/02/2009
Cynllun Gweithredu i Gymru ar gyfer Hepatitis C a Feirysol a Gludir yn y Gwaed
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
yn nodi er bod gan 14,000 o bobl yng Nghymru Hepatitis C, feirws heintus sy’n achosi canser, bod ymwybyddiaeth o’r cyflwr yn dal yn isel ac nad yw nifer o'r rheini sydd â’r firws wedi cael diagnosis na thriniaeth.
yn nodi er gwaethaf ymrwymiad y Llywodraeth i ddatblygu Cynllun Gweithredu ar gyfer Hepatitis Feirysol a Gludir yn y Gwaed er 2004, nad yw’r cynllun byth wedi cael ei lansio.
yn galw ar y Llywodraeth i roi diwedd ar bum mlynedd o ddisgwyl a chyhoeddi’r Cynllun Gweithredu’n ddi-oed i sicrhau nad yw Cymru'n parhau i lusgo y tu ôl i'r Alban a Lloegr o ran mynd i'r afael â Hepatitis C.