OPIN-2009-0044 -Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 02/04/2009

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2009-0044 - Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Codwyd gan:

Bethan Jenkins

Tanysgrifwyr:

Janet Ryder 01/07/2009

Leanne Wood 01/07/2009

Helen Mary Jones 01/07/2009

Chris Franks 01/07/2009

Gareth Jones 01/07/2009

Rhodri Glyn Thomas 01/07/2009

Dai Lloyd 01/07/2009

Nerys Evans 010/07/2009

Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol

Mae’r Cynulliad hwn:

Yn nodi mai 15 Mai bob blwyddyn yw Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol;

Yn cydnabod y traddodiad cryf o gefnogi'r hawl i wrthod lladd sy’n bodoli yng Nghymru;

Yn croesawu’r gofeb i wrthwynebiad cydwybodol, a ddadorchuddiwyd yn yr Ardd Heddwch Genedlaethol ym Mharc Cathays, Caerdydd yn 2005;

Yn credu y byddai’n addas i Gynulliad Cenedlaethol Cymru goffáu Diwrnod Rhyngwladol Gwrthwynebwyr Cydwybodol yn flynyddol drwy gynnal digwyddiad bach yn y Senedd.