DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 23/06/2009
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2009-0066 - Ymchwiliad i ryfel Irac
Codwyd gan:
Jenny Randerson
Tanysgrifwyr:
Mick Bates 26/06/2009
Ymchwiliad i ryfel Irac
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
Yn nodi:
Cyhoeddiad gan y Prif Weinidog i ymchwiliad i Ryfel Irac
Yr anniddigrwydd a gododd yn dilyn y cyhoeddiad cyntaf y byddai’r ymchwiliad yn cael ei gynnal yn breifat
Yn credu er mwyn bod yn ddidwyll ac yn agored y dylai’r ymchwiliad gael ei gynnal yn gyhoeddus ac mae’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi galwadau am i’r ymchwiliad gael ei gynnal yn gyhoeddus.