DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 09/02/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2010-0006 - Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta
Codwyd gan:
Bethan Jenkins
Tanysgrifwyr:
Gareth Jones 25/02/2010
Dai Lloyd 25/02/2010
Nerys Evans 25/02/2010
Rhodri Glyn Thomas 25/02/2010
Janet Ryder 25/02/2010
Helen Mary Jones 25/02/2010
Chris Franks 25/02/2010
Leanne Wood 25/02/2010
Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi, ar Wythnos Ymwybyddiaeth o Anhwylderau Bwyta, sy'n dechrau ar 22 Chwefror, bod oddeutu 58,000 o bobl yng Nghymru yn dioddef anhwylderau bwyta ar hyn o bryd, gyda beat Cymru yn canfod y bydd un o bob pump o'r rheini'n marw oherwydd eu salwch, y gyfradd marwolaethau uchaf o unrhyw salwch meddwl.