OPIN-2010-0020 - Cofrestr Lobïo

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 19/04/2010

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2010-0020 - Cofrestr Lobïo

Codwyd gan:

Nick Bourne

Tanysgrifwyr:

William Graham 13/05/2010

Cofrestr Lobïo

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn galw ar Lywodraeth y Cynulliad i ystyried beth yw’r ffordd orau o sicrhau bod lobïwyr yn cael eu rheoleiddio’n briodol yng Nghymru i hyrwyddo tryloywder a thegwch er budd pobl Cymru.