DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 06/07/2010
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2010-0039 - Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn talu teyrnged i fywyd a chyfraniad Charles Rolls
Codwyd gan:
William Graham
Tanysgrifwyr:
Nick Ramsay 07/07/2010
Paul Davies 15/07/2010
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn talu teyrnged i fywyd a chyfraniad Charles Rolls
Ar 12fed Gorffennaf 2010, bydd can mlynedd wedi mynd heibio ers marwolaeth Charles Rolls o Langatwg, sir Fynwy. Ef oedd yr arloeswr cyntaf yng Nghymru ym maes moduro a hedfan. Ar y cyd â Frederick Henry Royce, gwnaethant sefydlu cwmni gweithgynhyrchu ceir Rolls-Royce, un o’r cwmnïau gweithgynhyrchu peiriannau-awyrennau mwyaf eiconig a llwyddiannus yn y byd.