DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 19/05/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0002 - Toriadau i Heddlu Gwent
Codwyd gan:
Jocelyn Davies
Tanysgrifwyr:
Alun Ffred Jones 23/05/2011
Lindsay Whittle 10/06/2011
Leanne Wood 19/09/2011
Toriadau i Heddlu Gwent
Mae’r Cynulliad Cenedlaethol:
Yn nodi’r pryder a fynegwyd gan Ffederasiwn Heddlu Gwent ynghylch y toriadau arfaethedig i blismona gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig;
Yn rhannu pryderon y Ffederasiwn y bydd toriadau o’r fath yn arwain at gynnydd mewn troseddu a gostyngiad yn lefelau’r gwasanaeth a ddarperir gan yr heddlu;
Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi’r gorau i gynlluniau i dorri 20 y cant oddi ar gyllideb yr heddlu.