DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 11/10/2011
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2011-0031 - Cefnogi’r Cynllun Dechrau Da yng Nghymru
Codwyd gan:
Lynne Neagle
Tanysgrifwyr:
Mike Hedges 17/10/2011
Keith Davies 17/10/2011
Mark Drakeford 18/10/2011
Lindsay Whittle 18/10/2011
Mick Antoniw 18/10/2011
Nick Ramsay 19/10/2011
Ann Jones 19/10/2011
Mark Isherwood 19/10/2011
Simon Thomas 27/10/2011
Leanne Wood 01/11/2011
Angela Burns 07/11/2011
Jenny Rathbone 22/11/2011
David Rees 22/11/2011
Christine Chapman 23/11/2011
Cefnogi’r Cynllun Dechrau Da yng Nghymru
Mae’r Cynulliad hwn:
1. Yn cydnabod llwyddiant y cynllun Dechrau Da yng Nghymru dros y degawd diwethaf a mwy, a’i lwyddiant wrth annog rhieni a gofalwyr i ddarllen yn rheolaidd gyda’u plant o oedran cynnar;
2. Yn nodi’r adroddiad Gwerthuso Effaith 2010 sy’n canmol swyddogaeth Dechrau Da wrth sicrhau bod pob baban a phlentyn yn gallu cael gafael ar lyfrau o’r cychwyn cyntaf, ni waeth pwy ydynt nac o ble maent yn dod; ac
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i gyllido Dechrau Da ar ôl 2012.