OPIN-2011-0048 - Tâl Rhanbarthol

Cyhoeddwyd 10/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 10/06/2014

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 06/12/2011

R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

OPIN-2011-0048 - Tâl Rhanbarthol

Codwyd gan:

Vaughan Gething

Julie James

Mick Antoniw

Tanysgrifwyr:

Lynne Neagle 07/12/2011

Rebecca Evans 07/12/2011

David Rees 07/12/2011

Ken Skates 07/12/2011

Keith Davies 07/12/2011

Sandy Mewies 07/12/2011

Mike Hedges 09/12/2011

Julie Morgan 09/01/2012

Tâl Rhanbarthol

Mae’r Cynulliad hwn:

1. Yn condemnio’r bwriad i ystyried strwythurau tâl rhanbarthol a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref gan y Canghellor George Osborne;

2. Yn cydnabod y byddai strwythurau tâl rhanbarthol yn anfantais ddifrifol i bobl sy’n gweithio yng Nghymru a rhanbarthau tlotach Lloegr; a

3. Yn credu y byddai polisi Llywodraeth y DU yn dyfnhau tlodi rhanbarthol.

Gwellianau

A01 Codwyd gan: Simon Thomas and Leanne Wood

Tanysgrifwyr:

Tâl Rhanbarthol

Mae’r Cynulliad Cenedlaethol hwn:

1. Yn condemnio’r bwriad i ystyried strwythurau tâl rhanbarthol a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref gan y Canghellor George Osborne;

2. Yn cydnabod y byddai gorfodi graddfeydd cyflog arbennig ar wledydd a rhanbarthau'r DU yn dyfnhau anghydraddoldebau cyfoeth sydd eisoes yn bodoli yn y DU;

3. Yn galw ar Brif Weinidog Cymru i agor trafodaethau ar unwaith gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod pwer dros dâl ac amodau i athrawon yn cael ei bennu yng Nghymru.