DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 23/05/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0096 - Premiwm Disgybl yng Nghymru: y Grant Amddifadedd Disgyblion
Codwyd gan:
Aled Roberts
Tanysgrifwyr:
Kirsty Williams 24/05/2012
William Powell 24/05/2012
Eluned Parrott 24/05/2012
Peter Black 28/05/2012
Premiwm Disgybl yng Nghymru: y Grant Amddifadedd Disgyblion
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn llongyfarch y Prif Weinidog ar lansio’r Grant Amddifadedd Disgyblion fel cam ymarferol at wella rhagolygon y plant tlotaf.
Yn nodi’r tebygrwydd rhwng ‘grant amddifadedd disgyblion’ Llywodraeth Cymru a phremiwm disgybl Llywodraeth y DU.
Yn croesawu’r arweinyddiaeth glir a ddangoswyd gan Ddirprwy Brif Weinidog y DU ac Arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wrth negodi’r Premiwm Disgybl yng Nghymru a Lloegr, gan gyflawni prif ymrwymiadau maniffesto a wnaed yn etholiadau 2010 a 2011.
Yn galw ar y Llywodraeth i fynd ati i asesu effaith y grant amddifadedd disgyblion ar lefelau cyrhaeddiad.