DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD 05/07/2012
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2012-0107 - Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol
Codwyd gan:
Ken Skates
Tanysgrifwyr:
Jenny Rathbone 10/07/2012
Keith Davies 10/07/2012
Gwenda Thomas 10/07/2012
Ann Jones 10/07/2012
Mick Antoniw 10/07/2012
Mike Hedges 10/07/2012
Sandy Mewies 10/07/2012
Lindsay Whittle 10/07/2012
Julie James 10/07/2012
Christine Chapman 11/07/2012
Joyce Watson 08/10/2012
Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
- Yn gresynu wrth golli Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol a cholli 20,000 o filwyr o Lu Amddiffyn y DU;
- Yn nodi gwasanaeth dewr, ymroddedig ac arwrol Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol i Gymru ac i'r DU dros y blynyddoedd;
- Yn nodi’r balchder a’r edmygedd a deimlir ledled Cymru tuag at wasanaeth y bataliwn, ei gyn-filwyr a'u teuluoedd; ac
- Yn gresynu wrth fethiant Ysgrifennydd Gwladol Cymru i sefyll dros ein lluoedd arfog.