DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 30/04/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0180 Cefnogi Ehangu Undebau Credyd yng Nghymru
Codwyd gan:
Mark Isherwood
Tanysgrifwyr:
Antoinette Sandbach 01/05/2013
Suzy Davies 01/05/2013
Paul Davies 01/05/2013
Darren Millar 01/05/2013
Russell George 01/05/2013
Mike Hedges 01/05/2013
William Graham 01/05/2013
Peter Black 01/05/2013
Mohammad Asghar 02/05/2013
Aled Roberts 02/05/2013
Angela Burns 09/05/2013
Julie James 09/05/2013
Janet Finch-Saunders 09/05/2013
Byron Davies 09/05/2013
Jenny Rathbone 10/05/2013
Nick Ramsay 10/05/2013
Angela Burns 18/06/2013
Cefnogi Ehangu Undebau Credyd yng Nghymru
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn croesawu:
a) llwyddiant cynnig ABCUL i gyflawni Prosiect Ehangu Undebau Credyd Llywodraeth y DU, y mae sawl Undeb Credyd yng Nghymru wedi ymrwymo i ymuno ag ef eisoes; a
b) amcan y Prosiect o helpu Undebau Credyd i uwchraddio eu systemau, cyflawni arbedion maint, cynnig amrywiaeth ehangach, uwch a mwy cystadleuol o gynnyrch a gwasanaethau a chynnig, ar sail gynaliadwy, gredyd fforddiadwy i ddefnyddwyr na fyddai ganddynt fel arall unrhyw ddewis arall heblaw am ddefnyddio benthycwyr cost uchel.