DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 16/05/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0187 Y Gofrestr Marwolaethau oherwydd Epilepsi
Codwyd gan:
Aled Roberts
Tanysgrifwyr:
Byron Davies 16/05/2013
David Rees 16/05/2013
Peter Black 16/05/2013
Llyr Huws Gruffydd 16/05/2013
Alun Ffred Jones 16/05/2013
Janet Finch-Saunders 17/05/2013
Mohammad Asghar 17/05/2013
Darren Millar 17/05/2013
Paul Davies 17/05/2013
Eluned Parrott 20/05/2013
Antoinette Sandbach 20/05/2013
Mark Isherwood 20/05/2013
David Melding 24/05/2013
Y Gofrestr Marwolaethau oherwydd Epilepsi
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi:
bod gan 1 o bob 94 o bobl yng Nghymru epilepsi;
bod dros 1000 o bobl yn y DU yn marw bob blwyddyn oherwydd achosion sy’n gysylltiedig ag epilepsi; a
bod Marwolaethau Sydyn Annisgwyl oherwydd Epilepsi (SUDEP) yn cyfrif am hanner y marwolaethau hyn.
2. Yn cydnabod bod y Gofrestr Marwolaethau oherwydd Epilepsi yn un pwynt ar gyfer rhoi gwybod am yr holl farwolaethau sy’n gysylltiedig ag epilepsi yn y DU, ac yn cydnabod ei chyfraniad at ymchwil, ymwybyddiaeth a thriniaeth epilepsi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddilyn Llywodraeth y DU drwy gefnogi’r Gofrestr Marwolaethau oherwydd Epilepsi.