DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 10/07/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0212 Gwrthwynebu Preifateiddio’r Post Brenhinol
Codwyd gan:
Ann Jones
Tanysgrifwyr:
Llyr Huws Gruffydd 12/07/2013
Mike Hedges 12/07/2013
David Rees 12/07/2013
Sandy Mewies 12/07/2013
Lynne Neagle 12/07/2013
Mick Antoniw 15/07/2013
Keith Davies 12/07/2013
Christine Chapman 16/07/2013
Gwrthwynebu Preifateiddio’r Post Brenhinol
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynlluniau Llywodraeth y DU i breifateiddio’r Post Brenhinol;
Yn nodi â phryder yr effaith y gallai’r cynlluniau ei chael ar ansawdd y gwasanaeth a gaiff ei ddarparu gan y Post Brenhinol;
Yn nodi â phryder yr effaith negyddol bosibl y gallai’r cynlluniau ei chael ar amodau gwaith staff y Post Brenhinol;
Yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried ei chynlluniau preifateiddio a gweithio gydag Undeb y Gweithwyr Cyfathrebu (CWU) i sicrhau datrysiad teg.