DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 24/09/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0217 Gweithredu Diwydiannol gan Undeb y Brigadau Tân
Codwyd gan:
Rhodri Glyn Thomas
Tanysgrifwyr:
Leanne Wood 01/10/2013
Gweithredu Diwydiannol gan Undeb y Brigadau Tân
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi'r penderfyniad gan Undeb y Brigadau Tân i roi'r gorau i weithio am bedair awr yng Nghymru yn sgîl yr anghydfod pensiynau tân.
Yn cydnabod bod Undeb y Brigadau Tân wedi pwysleisio ei ddymuniad am drafodaethau difrifol yn gyson.
Yn cydnabod y pryderon a godwyd gan Undeb y Brigadau Tân yn eu cynllun saith pwynt.
Yn ailddatgan ei gefnogaeth i bensiynau teg ar draws pob un o sectorau'r economi.