DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 26/09/2013
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0218 Gweithredu Diwydiannol gan Undeb y Brigadau Tân
Codwyd gan :
Ann Jones
Lynne Neagle
Mick Antoniw
Tanysgrifwyr:
Joyce Watson 09/12/2013
Gweithredu Diwydiannol gan Undeb y Brigadau Tân
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn cydnabod cyfraniad enfawr diffoddwyr tân Cymru o ran diogelu cymunedau;
Yn nodi bod cynigion wedi’u gwneud i godi'r oedran ymddeol i 60 a fydd yn effeithio ar hawl pensiynau diffoddwyr tân;
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio'n adeiladol gydag Undeb y Brigadau Tân i ddod o hyd i ateb cyfeillgar i'r anghydfod.