DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 07/11/13
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2013-0238 Wythfed Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Garbon Monocsid 18-24 Tachwedd 2013
Codwyd gan:
Rebecca Evans
Tanysgrifwyr:
Mike Hedges 11/11/2013
Keith Davies 11/11/2013
Mohammad Asghar 11/11/2013
Llyr Gruffydd 11/11/2013
Alun Ffred jones 11/11/2013
David Rees 11/11/2013
Mick Antoniw 11/11/2013
Peter Black 11/11/2013
Gwyn Price 12/11/2013
Mark Isherwood 12/11/2013
Darren Millar 12/11/2013
Angela Burns 12/11/2013
Kirsty Williams 12/11/2013
William Graham 12/11/2013
Jenny Rathbone 12/11/2013
Aled Roberts 12/11/2013
Paul Davies 13/11/2013
Julie James 13/11/2013
David Melding 20/11/2013
Julie Morgan 28/11/2013
Joyce Watson 13/01/2014
Wythfed Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Garbon Monocsid 18-24 Tachwedd 2013
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn nodi bod carbon monocsid yn y cartref yn gyfrifol am nifer sylweddol o farwolaethau bob blwyddyn, ac am lawer mwy o achosion o wenwyno lled angheuol;
Yn deall y gellir atal y marwolaethau a’r damweiniau hyn: drwy godi mwy o ymwybyddiaeth ymysg y cyhoedd a sicrhau bod gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd yn bod yn fwy gwyliadwrus o ran yr arwyddion a’r symptomau a geir yn sgîl dod i gysylltiad ag ef;
Yn cefnogi’r wythfed Wythnos Ymwybyddiaeth o Garbon Monocsid blynyddol, sy’n dechrau ddydd Llun 18 Tachwedd 2013, ac yn ceisio lleihau damweiniau, marwolaethau a salwch o ganlyniad i wenwyn carbon monocsid drwy godi ymwybyddiaeth o’r symptomau a'r camau y gellir eu cymryd i atal hyn rhag digwydd.
Gwelliant
A01 Codwyd Gan:
Peter Black
Cefnogwyr:
William Graham 12/11/2013
Aled Roberts 12/11/2013
Mohammad Asghar 13/11/2013
Darren Millar 13/11/2013
8fed Wythnos Ymwybyddiaeth Carbon Monocsid 18-24 Tachwedd 2013
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn cefnogi cynnwys cymalau yn y Bil Tai i wneud gosod synwyryddion carbon monocsid yn orfodol ym mhob ty newydd, tai cymdeithasol ac wrth osod unrhyw offer a allai gynhyrchu’r nwy mewn tai presennol yn unol ag argymhellion y Grwp Seneddol Hollbleidiol ar Garbon Monocsid.