OPIN-2013-0341 Refferendwm ar yr UE

Cyhoeddwyd 18/05/2015   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 15/06/2015

DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 18 Mai 2015

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant.

 

OPIN-2013-0341 Refferendwm ar yr UE

 

Cyflwynwyd gan:

William Powell


Tanysgrifwyr:

David Rees (20/05/2015)
Peter Black (21/05/2015)
Eluned Parrott (05/06/2015)
Russell George (08/06/2015)
Jeff Cuthbert (08/06/2015)
Llyr Gruffydd (08/06/2015)
Kirsty Williams (09/06/2015)
Eluned Parrott (15/09/2015) 

Refferendwm ar yr UE

Mae'r Cynulliad hwn: 

1. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth y DU i refferendwm ar ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd;

2. Yn cydnabod pwysigrwydd caniatáu amser i'r cyhoedd ystyried yn llawn y materion a'r goblygiadau sy'n gysylltiedig â'r ddadl ar refferendwm yr UE;

3. Yn cydnabod pwysigrwydd sicrhau trafodaeth eglur a digonol ar y materion sy'n wynebu pobl Cymru, y Cynulliad a Llywodraeth Cymru cyn yr etholiad yn 2016; a

4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i sicrhau nad yw'r refferendwm ar yr UE yn cael ei gynnal ar yr un diwrnod, nac ychwaith yn y cyfnod yn arwain at, etholiad y Cynulliad ym mis Mai 2016.