DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 10/02/14
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2014-0264 - Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2014 (11.02.2014)
Codwyd gan:
Mike Hedges
Tanysgrifwyr:
Mohammad Asghar 10/02/2014
Paul Davies 10/02/2014
Lynne Neagle 10/02/2014
David Rees 10/02/2014
Darren Millar 10/02/2014
Peter Black 10/02/2014
William Graham 10/02/2014
Keith Davies 10/02/2014
David Melding 11/02/2014
Julie James 11/02/2014
Russell George 11/02/2014
Christine Chapman 13/02/2014
Joyce Watson 04/03/2014
Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2014 (11.02.2014)
Mae’r Cynulliad hwn:
Yn cydnabod y rhyngrwyd fel adnodd dysgu rhagorol ar gyfer pobl ifanc a phlant;
Yn nodi gyda gofid fod 4,507 o bobl ifanc wedi cysylltu â ChildLine yn ystod 2012-13 am gefnogaeth a chyngor ar ddelio â bwlio ar-lein (cynnydd o 87% ar y flwyddyn flaenorol);
Yn nodi ymhellach bod un o bob pedwar o’r bobl ifanc 11-16 oed sydd â phroffil rhwydweithio cymdeithasol wedi profi rhyw fath o gam-drin ar safle rhwydweithio cymdeithasol, ac nid yw 58% o ddefnyddwyr ifanc y rhyngrwyd yn gwybod pwy yw’r troseddwr;
Yn croesawu Diwrnod Defnyddio’r Rhyngrwyd yn Fwy Diogel 2014 ac yn cydnabod pwysigrwydd dysgu i bobl ifanc ddefnyddio’r rhyngrwyd yn ddiogel, yn ddiogel rhag niwed a cham-drin.