DATGANIADAU BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 3/03/14
R Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2014-0274 – Y ffordd y cafodd cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe eu trin yn Naples
Codwyd gan:
Mike Hedges
Tanysgrifwyr:
Leighton Andrews 04/03/014
Mohammad Asghar 04/03/2014
Suzy Davies 04/03/2014
David Rees 04/03/2014
Peter Black 04/03/2014
Keith Davies 04/03/2014
Joyce Watson 11/03/2014
Byron Davies 13/03/2014
Bethan Jenkins 18/04/2014
Y ffordd y cafodd cefnogwyr Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe eu trin yn Naples
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
• Yn mynegi pryder mawr am y ffordd y cafodd cefnogwyr Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe eu trin yn Naples wedi i gannoedd o’r cefnogwyr golli dechrau gêm Abertawe yn erbyn Napoli nos Iau 27 Chwefror 2014;
• Yn nodi ei bod wedi cymryd mwy na dwy awr i 200 o gefnogwyr deithio ar fws o borthladd Naples i’r stadiwm o ganlyniad i oedi annerbyniol oherwydd mesurau diogelwch;
• Yn cefnogi’r camau y mae Clwb Pêl Droed Dinas Abertawe yn eu cymryd wrth iddo gyflwyno cwyn swyddogol i heddlu Naples ac i UEFA.