DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG A GYFLWYNWYD AR 12/12/16
R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant
OPIN-2016-0028 - Llefarydd a Llywydd Senedd Catalan
Cyflwynwyd gan:
Simon Thomas
Tanysgrifwyr:
Neil McEvoy 13/12/16
Bethan Jenkins 14/12/16
Elin Jones 15/12/16
Llyr Gruffydd 15/12/16
Mike Hedges 15/12/16
Llefarydd a Llywydd Senedd Catalan
Mae'r Cynulliad hwn:
a) yn pryderu am benderfyniad Uchel Lys Catalonia i barhau a'r bwriad i erlyn Carme Forcadell, Llefarydd a Llywydd Senedd Catalan, am dorri cyfraith Sbaen, yn ôl yr honiadau, drwy ganiatáu dadl seneddol ar addasu cyfansoddiad Sbaen, yn benodol ar gynnal refferendwm ar annibynniaeth Sbaen;
b) yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU a cheisio ei ddatrys; ac
c) yn annog Llywodraeth Sbaen i ailystyried yr erlyniad a chwilio am ddatrys ei hanghydfod â chynrychiolwyr pobl Catalonia drwy gyd-drafod.