OPIN-2017-0031 – Condemnio gwaharddiad Llywydd yr Unol Daleithiau ar deithio gan Fwslemiaid i’r Unol Daleithiau

Cyhoeddwyd 31/01/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 27/03/2017

DATGANIAD BARN YSGRIFENEDIG

A GYFLWYNWYD AR 31/01/17

R - Yn dynodi bod yr Aelod wedi datgan buddiant

 

OPIN-2017-0031 – Condemnio gwaharddiad Arlywydd yr Unol Daleithiau ar deithio gan Fwslemiaid i'r Unol Daleithiau

 

Cyflwynwyd gan:

Simon Thomas

 

Tanysgrifwyr:
Llyr Gruffydd 01/02/17
Dai Lloyd 01/02/17
Vikki Howells 01/02/17
Neil McEvoy 01/02/17
Mohammad Asghar 01/02/17
Lynne Neagle 01/02/17
Sian Gwenllian 01/02/17
Dawn Bowden 01/02/17
Rhianon Passmore 01/02/17
Mike Hedges 01/02/17
Steffan Lewis 02/01/17
Joyce Watson 27/03/17

 

Mae'r Cynulliad hwn:

Yn condemnio'r gwaharddiad teithio 90 diwrnod gan Arlywydd yr Unol Daleithiau ar wladolion llawer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn Fwslemiaid a gwaharddiad parhaol ar ffoaduriaid o Syria.

Yn pryderu am effaith y gwaharddiad hwn ar les a bywoliaeth dinasyddion cenedligrwydd deuol o Gymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi llais yn erbyn y gwaharddiad anghyfansoddiadol, anfoesol, gwahaniaethol ac aneffeithiol ar symudiad mwslemiaid o wledydd penodol i'r Unol Daleithiau.

Yn gwrthod y gwahaniaethu hwn ac yn pwysleisio bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwerthfawrogi holl ddinasyddion Cymru, waeth beth yw eu crefydd neu gefndir ac y byddwn oll yn cydsefyll i ddiogelu ac amddiffyn ein gilydd.