19/06/2018 - Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Cyhoeddwyd 19/06/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/06/2018

​Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Mae agendâu'r Cyfarfod Llawn yn cael eu cyhoeddi wythnos cyn pob cyfarfod, ac maent i'w gweld ar dudalen y Cyfarfod Llawn

 

Dydd Mawrth 26 Mehefin 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg: Addysg Gychwynnol i Athrawon (45 munud)
  • Datganiad gan Arweinydd y Tŷ: Galluogi Sipsiwn, Roma a Theithwyr (45 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Brexit - Y Risgiau i Ddyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (45 munud)
  • Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd: Y Strategaeth Goetiroedd (45 munud)
  • Datganiad gan y Gweinidog Tai ac Adfywio: Integreiddio Tai, Iechyd a Gofal Cymdeithasol (45 munud)

     

Dydd Mercher 27 Mehefin 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)

      

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
  • Dadl ar Ddeisebau P-04-472 Gwnewch y Nodyn Cyngor Technegol Mwynau yn ddeddf a P-04-575 Galw i Mewn Pob Cais Cynllunio ar Gyfer Cloddio Glo Brig (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
  • Dadl Fer – Neil Hamilton (Canolbarth a Gorllewin Cymru) (30 munud)

 

Dydd Mawrth 3 Gorffennaf 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: 70 mlynedd ers sefydlu'r GIG (45 munud)
  • Dadl: Brexit a'r Diwydiant Pysgota (60 munud)

 

Dydd Mercher 4 Gorffennaf 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth (45 munud)
  • Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (60 munud)
  • Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
  • Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
  • Dadl Fer - Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru) (30 munud) 

     

Dydd Mawrth 10 Gorffennaf 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i'r Prif Weinidog (45 munud)
  • Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
  • Datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus: Adroddiad Cynnydd ar Ein Cymoedd, Ein Dyfodol (45 munud)
  • Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Ardrethu Annomestig (Meithrinfeydd Planhigion) (15 munud)
  • Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19 (30 munud)
  • Dadl: Adolygiad o'r Cyflenwad Tai Fforddiadwy (60 munud)

     

Dydd Mercher 11 Gorffennaf 2018

Busnes y Llywodraeth

  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig (45 munud)
  • Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus (45 munud)

 

Busnes y Cynulliad

  • Cwestiynau Amserol (20 munud)
  • Datganiadau 90 Eiliad (5 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar gyllid cychwynnol Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiect Cylchffordd Cymru (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon: Y defnydd o feddyginiaeth wrthseicotig mewn cartrefi gofal (60 munud)
  • Dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau: Ardaloedd Menter: mynd ymhell? (60 munud)
  • Dadl Fer - Rhun ap Iorwerth (Ynys Môn) (30 munud)