04/07/2007 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (11)

Dyddiad: Dydd Mercher, 4 Gorffennaf 2007
Amser: 12.30pm

12.30pm
Eitem 1: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Gwasanaethau Niwrolawdriniaeth

...................................................

1.10pm
Eitem 2: The National Assembly for Wales (Diversion of Functions) (No 2) Order 2007

NDM3637 Jane Hutt (Bro Morgannwg) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Yn penderfynu y dylid gwneud argymhelliad i’w Mawrhydi yn y Cyfrin Gyngor i wneud The National Assembly for Wales (Diversion of Functions) (No 2) Order 2007 o dan baragraff 31(1)(a)(ii) o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Gosodwyd y Gorchymyn drafft yn y Swyddfa Gyflwyno, o dan Reol Sefydlog 29.2, ar 27 Mehefin 2007. Derbyniwyd y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

1.11pm
Cynnig i ohirio'r Rheolau Sefydlog

NDM3640 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8: Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y cyfarfod llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan eitem 3 gael eu hystyried yn y cyfarfod llawn ddydd Mercher 4 Gorffennaf 2007. Derbyniwyd y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 7.45.

1.11pm
Eitem 3: Cynigion i sefydlu ac ethol y Pwyllgorau Deddfwriaethol

NNDM3641 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21.1, yn sefydlu Pwyllgor i ystyried y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig, 'National Assembly for Wales (Legislative Competence) (No 2) Order 2007’, ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff, ac i gyflwyno adroddiad arno.
Bydd y Pwyllgor yn peidio â bod ar ôl i’r Gorchymyn drafft cysylltiedig gael ei gyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 22.31. NNDM3642 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Jane Davidson, Lorraine Barrett, Alun Ffred Jones, Darren Millar, a Mick Bates yn aelodau o’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Diogelu’r Amgylchedd a Rheoli Gwastraff. NNDM3643 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21.1, yn sefydlu Pwyllgor i ystyried y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig, 'National Assembly for Wales (Legislative Competence) Order 2007’, ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol, ac i gyflwyno adroddiad arno. Bydd y Pwyllgor yn peidio â bod ar ôl i’r Gorchymyn drafft cysylltiedig gael ei gyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 22.31. NNDM3644 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Carwyn Jones, Jeff Cuthbert, Janet Ryder, Alun Cairns ac Eleanor Burnham yn aelodau o’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Anghenion Dysgu Ychwanegol. NNDM3645 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21.1, yn sefydlu Pwyllgor i ystyried y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig, 'National Assembly for Wales (Legislative Competence) (No 3) Order 2007’, ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed, ac i gyflwyno adroddiad arno.
Bydd y Pwyllgor yn peidio â bod ar ôl i’r Gorchymyn drafft cysylltiedig gael ei gyflwyno yn unol â Rheol Sefydlog 22.31. NNDM3646 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Gwenda Thomas, Karen Sinclair, Nerys Evans, David Melding, a Kirsty Williams yn aelodau o’r Pwyllgor ar y Gorchymyn Arfaethedig ynghylch Plant sy’n Agored i Niwed. NNDM3647 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21.1, yn sefydlu Pwyllgor i ystyried egwyddorion cyffredinol y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG (Cymru) 2007, ac i gyflwyno adroddiad arno.
Bydd y Pwyllgor yn peidio â bod ar ôl i’r Mesur gael ei basio, methu neu cael ei dynnu yn ol, neu ar ôl i bwyllgor newydd gael ei sefydlu ar gyfer trafodion cyfnod 2 yn unol â Rheol Sefydlog 23.31(ii). NNDM3648 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Edwina Hart , Val Lloyd, Helen Mary Jones, Jonathan Morgan a Jenny Randerson yn aelodau o’r Pwyllgor ar y Mesur Arfaethedig ynghylch Gwneud Iawn am Gamweddau’r GIG. Derbyniwyd y cynigion, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

1.12pm
Eitem 4: Dadl Plaid Cymru

NDM3638 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ailystyried canoli swyddfeydd gwasanaethau cyhoeddus yn wyneb yr effaith andwyol ar yr economi, y gymdeithas a'r amgylchedd; a 2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gydweithio â Llywodraeth y DU i rannu lleoliadau wrth ddarparu gwasanaethau. Gwelliant - William Graham (Dwyrain De Cymru) - Heb ei synud Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig: "Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wrthwynebu’r bwriad i gau Swyddfeydd Cyllid a Thollau EM yng Nghymru.” Derbyniwyd y cynnig, yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

2.15pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3639 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu ar gyfer system gwasanaethau eirioli effeithiol a chyffredin i blant a phobl ifanc yng Nghymru; 2. Yn nodi cyhoeddi’r ddogfen ymgynghori 'Model Gwasanaeth Newydd ar gyfer cyflwyno Gwasanaethau Eirioli i Blant a Phobl Ifanc’; a 3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i: a) Cydnabod bod angen annibyniaeth gadarn a thryloyw wrth gomisiynu gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc; b) Derbyn nad yw darparwyr gwasanaethau cyhoeddus yn y sefyllfa orau i gomisiynu eiriolaeth annibynnol i gefnogi plant a phobl ifanc sy’n dymuno cwyno am ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus; c) Creu corff comisiynu annibynnol ar gyfer Cymru gyfan er mwyn darparu gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc; a d) Cydnabod y gefnogaeth helaeth a geir i broses gomisiynu annibynnol ar gyfer gwasanaethau eirioli, ymysg sefydliadau sy’n hyrwyddo lles plant a phobl ifanc. Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn: Gwelliant 1 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 2 newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: "Yn nodi â phryder yr oedi o ran datblygu’r gweithdrefnau eirioli, cwynion a chwythu’r chwiban a argymhellwyd dro ar ôl tro gan swyddfa’r Comisiynydd Plant.” Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg) Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le: "Yn edrych ymlaen at ganlyniadau'r ymgynghoriad a fydd yn cael ei gwblhau ar 23 Gorffennaf 2007.” Gwelliant 3 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Dileu Pwynt 3c) a rhoi yn ei le: "Darparu i gorff annibynnol ar gyfer Cymru gyfan fod yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau eirioli i blant a phobl ifanc; a” Gwelliant 4 - Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru) Cynnwys pwynt 3d) newydd ac ail-rifo’r pwyntiau sy'n dilyn: "Dechrau’r broses o wella argaeledd gwasanaethau eirioli drwy flaenoriaethu mynediad ar gyfer plant sy’n derbyn gofal; a”

...................................................

3.32pm
Cafodd y cyfarfod ei ohirio

4.00pm
Ailddechreuodd y cyfarfod a chynhaliwyd pleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan eitem 5

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
30 21 0 51
Derbyniwyd gwelliant 1. Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
21 14 16 51
Derbyniwyd gwelliant 2. Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Cafodd gwelliant 4 ei ddad-ddethol. Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd: NDM3639 William Graham (Dwyrain De Cymru) Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru: 1. Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddarparu ar gyfer system gwasanaethau eirioli effeithiol a chyffredin i blant a phobl ifanc yng Nghymru; 2. Yn nodi â phryder yr oedi o ran datblygu’r gweithdrefnau eirioli, cwynion a chwythu’r chwiban a argymhellwyd dro ar ôl tro gan swyddfa’r Comisiynydd Plant. 3. Yn nodi cyhoeddi’r ddogfen ymgynghori 'Model Gwasanaeth Newydd ar gyfer cyflwyno Gwasanaethau Eirioli i Blant a Phobl Ifanc’; a 4. Yn edrych ymlaen at ganlyniadau'r ymgynghoriad a fydd yn cael ei gwblhau ar 23 Gorffennaf 2007.
Pleidleisiau a Thrafodion
O blaid Ymatal Yn erbyn Cyfanswm
35 16 0 51
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.

...................................................

4.02pm
Eitem 6: Dadl fer  

NDM3640 Gareth Jones (Aberconwy): Pobl, gwleidyddiaeth ac ysbytai lleol.

...................................................

Daeth y cyfarfod i ben am 4.25pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2007

Ysgrifenyddiaeth y Siambr