05/03/2008 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (51)

Dyddiad: Dydd Mercher, 05 Mawrth 2008
Amser: 12.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol

Gofynnwyd pob cwestiwn.

………………………………

12.37pm
Eitem 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 2 a 5 eu grwpio.

………………………………

Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Faterion Gwledig am Bysgodfeydd - Gohiriwyd

………………………………

1.19pm
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol am faterion iechyd yn ymwneud â GIG Gogledd Cymru

………………………………

1.59pm
Cynnig i ohirio'r Rheolau Sefydlog

NNDM3893 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)


Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o dan Eitem 5 a 6 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 5 Mawrth 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.00pm
Eitem 5: Cynnig i sefydlu Pwyllgor Darlledu

NNDM3894 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 21, yn sefydlu Pwyllgor Darlledu. Daw’r Pwyllgor i ben ar 18 Gorffennaf 2008.

Cylch gwaith y pwyllgor fydd:

Ymchwilio i ddyfodol darlledu gwasanaeth cyhoeddus Cymraeg a Saesneg ei iaith yng Nghymru a chyhoeddi adroddiad arno.

Ymchwilio i effeithiau’r newid i ddigidol a chreu llwyfannau darlledu newydd ar gynhyrchu a darparu rhaglenni a chynnwys digidol o Gymru ac yng Nghymru, a chyflwyno adroddiad ar yr effeithiau hyn.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

Eitem 6: Cynnig i ethol y Pwyllgor Darlledu

NNDM3895 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Alun Davies (Llafur), Alun Ffred Jones (Plaid Cymru), Paul Davies (Ceidwadwyr) a Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelodau o’r Pwyllgor Darlledu.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

Eitem 7: Cynnig i newid aelodaeth y Pwyllgor Archwilio

NDM3885 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Bethan Jenkins (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

Eitem 8: Cynnig i newid aelodaeth y Pwyllgor Cyfle Cyfartal

NDM3886 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3, yn ethol Chris Franks (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Cyfle Cyfartal yn lle Helen Mary Jones (Plaid Cymru).

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.01pm
Eitem 9: Cynnig i gymeradwyo diwygiadau i God Ymddygiad yr Aelodau a Gweithdrefn Gwyno'r Aelodau

NDM3887 Jeff Cuthbert (Caerffili)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi gweithdrefn Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer ymdrin â chwynion yn erbyn Aelodau'r Cynulliad - cymeradwywyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar 29 Ionawr 2008, ac fe’i osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2008.

2. Yn cymeradwyo Cod Ymddygiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar gyfer Aelodau'r Cynulliad - cytunwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad ar 29 Ionawr 2008, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 18 Chwefror 2008.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………………

2.05pm
Eitem 10: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3889 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau brys ac ymarferol i roi sylw i’r argyfwng tai sydd ar dwf yng Nghymru, gan fanteisio’n llawn ar yr arbenigedd sydd ar gael yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol/elusennol.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu "argyfwng tai sydd ar dwf" a rhoi yn ei le "anghenion tai"

Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Ychwanegu ar ddiwedd y cynnig:

"ac yn cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hyd yma a'r rhaglen a amlinellwyd o dan Cymru'n Un".

Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

Adolygu rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn cynyddu’r buddsoddiad y gallant ei wneud mewn cymunedau.”

Gwelliant 4 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Gweithio’n agosach gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn defnyddio pwerau cyfredol i’r eithaf i sicrhau nifer fwy o gartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl leol.

b) Sicrhau bod gan bob cyngor lleol arolwg a strategaeth anghenion tai cadarn er mwyn bod yn sylfaen i weithredu effeithiol ar gyfer darparu tai fforddiadwy a mynd i’r afael â digartrefedd.

c) Adolygu’r ddarpariaeth o gyfleusterau a chefnogaeth ar gyfer pobl ddigartref ym mhob awdurdod lleol a darparu adnoddau ychwanegol lle bydd angen i ategu hyn.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

17

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

16

47

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

47

0

0

47

Derbyniwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3889 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau brys ac ymarferol i roi sylw i anghenion tai gan fanteisio’n llawn ar yr arbenigedd sydd ar gael yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol/elusennol  ac yn cymeradwyo'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cynulliad Cymru hyd yma a'r rhaglen a amlinellwyd o dan Cymru'n Un.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn cynyddu’r buddsoddiad y gallant ei wneud mewn cymunedau.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Gweithio’n agosach gydag awdurdodau lleol i sicrhau eu bod yn defnyddio pwerau cyfredol i’r eithaf i sicrhau nifer fwy o gartrefi fforddiadwy ar gyfer pobl leol.

b) Sicrhau bod gan bob cyngor lleol arolwg a strategaeth anghenion tai cadarn er mwyn bod yn sylfaen i weithredu effeithiol ar gyfer darparu tai fforddiadwy a mynd i’r afael â digartrefedd.

c) Adolygu’r ddarpariaeth o gyfleusterau a chefnogaeth ar gyfer pobl ddigartref ym mhob awdurdod lleol a darparu adnoddau ychwanegol lle bydd angen i ategu hyn.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

6

10

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

3.07pm
Eitem 11: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM3888 William Graham (Dwyrain De Cymru)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn gresynu wrth y cynnydd mewn gwastraff sy’n mynd i safleoedd tirlenwi dros y 9 mlynedd diwethaf ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i:

a) Ymgysylltu â gweithgynhyrchwyr, adwerthwyr a chyflenwyr i leihau faint o ddeunyddiau pecynnu diangen a fyddai’n mynd i safleoedd tirlenwi;

b) Cyfarwyddo awdurdodau lleol i gasglu gwastraff gweddilliol bob wythnos;

c) Cyfarwyddo awdurdodau lleol i wella eu rhaglenni ailgylchu drwy gynyddu nifer y casgliadau ar ochr y ffordd a nifer y banciau ailgylchu; a

d) Ystyried cyflwyno cymhellion i bobl leihau faint o’u gwastraff cartref sy’n

mynd i safleoedd tirlenwi.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr) - Tynnwyd yn ôl

Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn nodi y gall y dreth tirlenwi achosi dirwyon o hyd at £32 miliwn yn 2012/13 ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru.”

Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn credu bod yn rhaid i awdurdodau lleol fod ag arian ar gael er mwyn iddynt ddatblygu eu seilwaith ailgylchu i ddiwallu eu rhwymedigaethau lleihau gwastraff.”

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Tynnwyd gwellaint 1 yn ôl.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

32

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

17

0

31

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:


Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

11

0

37

48


Gwrthodwyd y cynnig.

………………………………

3.58pm
Eitem 12: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM3890 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylid rhoi’r prif bwys ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth wrth asesu sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

2. Yn cydnabod mewn rhai ardaloedd yng Nghymru a Lloegr, bod mynediad at wasanaethau ar ochr arall y ffin o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ystyried yr angen am ddarpariaeth drawsffiniol yn well wrth ddatblygu strategaethau gwasanaethau cyhoeddus newydd.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:


Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu ar ddiwedd pwynt 1:

", ac yn derbyn y dylid hyrwyddo’r egwyddor o roi dewis i gleifion y GIG.”

Gwelliant 2 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

"Yn cydnabod bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol i faterion trawsffiniol mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus.”

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y Cynnig:

"Yn derbyn bod angen cryfhau’r broses o ymgynghori cyhoeddus ynghylch diwygio gwasanaethau cyhoeddus.”     

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn nodi â phryder y dargyfeirio parhaus ym mholisi darparu gwasanaethau cyhoeddus Llywodraeth Cynulliad Cymru.”

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i godi safon gwasanaethau cyhoeddus gyda dull gweithredu mwy arloesol, gan fanteisio’n llawn ar yr arbenigedd sydd ar gael yn y sectorau annibynnol a gwirfoddol/elusennol.”

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod digon o arian ar gael i ddarparu’r un lefel o wasanaeth i’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd llai poblog â’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd trefol.”   

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Canlyniad y pleidleisiau:

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

38

48

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

31

0

16

47

Derbyniwyd gwelliant 2.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

32

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

6

32

48

Gwrthodwyd gwelliant 4.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

32

48

Gwrthodwyd gwelliant 5.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd gwelliant 6.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM3890 Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn credu y dylid rhoi’r prif bwys ar anghenion y defnyddiwr gwasanaeth wrth asesu sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu.

2. Yn cydnabod mewn rhai ardaloedd yng Nghymru a Lloegr, bod mynediad at wasanaethau ar ochr arall y ffin o fudd i ddefnyddwyr gwasanaeth.

3. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cynulliad Cymru yn rhoi ystyriaeth briodol i faterion trawsffiniol mewn perthynas â gwasanaethau cyhoeddus.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod digon o arian ar gael i ddarparu’r un lefel o wasanaeth i’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd llai poblog â’r rheini sy’n byw mewn ardaloedd trefol.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

32

15

0

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

………………………………

4.57pm
Gohiriwyd y cyfarfod.

5.02pm
Bu i’r cyfarfod ailymgynnull ar gyfer y cyfnod pleidleisio.

………………………………

5.08pm
Eitem 13: Dadl fer

NDM3884 Janice Gregory (Ogwr):

Cynhwysiant cymdeithasol ac ymdrech ar y cyd - sialens adfywio.


………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 5.27 pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 2.00pm ddydd Mawrth, 11 Mawrth 2008

Ysgrifenyddiaeth y Siambr