Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (86)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 7 Hydref 2008
Amser:
1.30pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 9 cwestiwn
cyntaf.
………………………
2.35pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
2.46pm
Eitem
3: Dadl ar sgiliau
NDM4017 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig
bod y Cynulliad Cenedlaethol:
1. Yn croesawu’r strategaeth sgiliau a chyflogaeth, Sgiliau
sy’n Gweithio i Gymru, a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2008;
2. Yn cydnabod ei phwysigrwydd i ddyfodol Cymru
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant
1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)Yn lle 'Yn croesawu’
rhoi 'Yn
nodi’.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
14 |
0 |
31 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at amharodrwydd Llywodraeth Cynulliad Cymru i osod y meincnod tymor hwy ar gyfer sgiliau canolradd yn lefel 3.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
"Yn nodi pwysigrwydd yr agenda sgiliau i raglenni strwythurol yr UE, yn enwedig o ran lleihau anweithgarwch economaidd.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
45 |
0 |
0 |
45 |
Derbyniwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gryfhau llais cyflogwyr drwy ddatblygu swyddogaeth gomisiynu uniongyrchol ar gyfer y sector busnes."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau y gwneir digon o waith cynllunio a pharatoi er mwyn gwarantu y bydd y strategaeth yn llwyddo
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4017
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod y Cynulliad
Cenedlaethol:
1. Yn croesawu’r strategaeth sgiliau a chyflogaeth, Sgiliau sy’n
Gweithio i Gymru, a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2008;
2. Yn cydnabod ei phwysigrwydd i ddyfodol Cymru;
3. Yn nodi pwysigrwydd yr agenda sgiliau i raglenni strwythurol yr UE, yn enwedig o
ran lleihau anweithgarwch economaidd.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
0 |
15 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………
3.46pm
Eitem
4: Dadl ar yr Amgylchedd Hanesyddol
NDM4013 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn Croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi ymwneud cymunedau â’u hamgylchedd hanesyddol, gan gynnwys cyhoeddi bron £1.5 miliwn o fuddsoddiad mewn prosiectau cadwraeth lleol.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant 1 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ar ôl 'prosiectau
cadwraeth lleol’
, rhoi 'ond yn nodi â phryder bod dros 10% o adeiladau rhestredig yng Nghymru mewn perygl a bod 17% arall yn fregus’
.
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu strategaeth farchnata gydlynol i hyrwyddo’r
amgylchedd hanesyddol i dwristiaid.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod modd cyrraedd pob safle hanesyddol gyda thrafnidiaeth gyhoeddus
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
galw ar y Gweinidog dros Dreftadaeth i gyhoeddi adroddiad blynyddol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ar effaith prosiectau cadwraeth yn ein cymunedau lleol a’u rôl mewn meysydd fel datblygu economaidd ac addysg.
”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn
galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynnal ymgynghoriad ystyrlon â grwpiau cadwraeth lleol yng Nghymru;
"
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gynyddu nifer yr ymgyngoreion statudol o ran prosiectau
cadwraeth, er enghraifft, i gynnwys Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
30 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4013
Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn Croesawu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i gefnogi ymwneud cymunedau â’u hamgylchedd hanesyddol, gan gynnwys cyhoeddi bron £1.5 miliwn o fuddsoddiad mewn prosiectau cadwraeth lleol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
40 |
5 |
1 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
4.37pm
Eitem
5: Dadl ar Ailstrwythuro'r GIG
NDM4018 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cynnydd y rhaglen i ddiwygio GIG Cymru, fel y’i nodwyd yn natganiad y Gweinidog ar 30 Medi.
2. Yn cymeradwyo ymrwymiad Cymru’n Un i ddileu’r farchnad fewnol, y mae’r rhaglen yn bwrw ati i’w wneud.
3. Yn edrych ymlaen at weld rhyddhau adnoddau ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, y bydd rhesymoli’r trefniadau rheoli iechyd yn ei sicrhau.
4. Yn cadarnhau’r ymrwymiad parhaus i Wasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru sy’n ataliol ac yn cael ei arwain gan ofal sylfaenol.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gwelliant
1 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ym mhwynt 1, dileu "Yn croesawu cynnydd y rhaglen i ddiwygio GIG Cymru, fel y’i nodwyd yn natganiad
” a rhoi "Yn nodi datganiad”
yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
10 |
0 |
36 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Kirsty Williams (Brycheiniog
a Sir Faesyfed)
Ym mhwynt 2, dileu "Yn cymeradwyo
” a rhoi "Yn nodi
” yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Dileu
pwynt 3 a rhoi "Yn credu mai’r ffordd orau o gyflawni gwasanaethau rheng flaen effeithiol yw sicrhau, lle bynnag y bo’n bosibl, bod penderfyniadau’n cael eu cymryd yn lleol, gyda safon genedlaethol warantedig o wasanaeth
yn sail iddynt
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar y Gweinidog i roi’r gorau i’w chynlluniau i Gadeirio’r Bwrdd Cynghori newydd
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sefydlu awdurdodau cysgodol cyn rhoi’r newidiadau ar waith."
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd
ar ddiwedd y cynnig:~
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i amlinellu beth yw’r arbedion cost tebygol a beth fydd cost ailstrwythuro
.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu y bydd y rhaglen yn arwain at system sy’n rhy ganoledig ac sy’n cyflwyno rheolaeth wleidyddol nas gwelwyd erioed o’r blaen dros y gwaith beunyddiol o redeg
y GIG.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
31 |
46 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu y gall rhai modelau cyllido nad ydynt yn gysylltiedig â’r llywodraeth chwarae rôl mewn datblygu prosiectau cyfalaf yn y GIG.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
30 |
45 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Gwelliant 10 - Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed)
Ychwanegu
pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn credu y dylid grymuso a chryfhau Cynghorau Iechyd Cymuned er mwyn darparu llais lleol yn y GIG.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 10:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
44 |
0 |
0 |
44 |
Derbyniwyd gwelliant 10.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4018 Carwyn Jones (Pen-y-Bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu cynnydd y rhaglen i ddiwygio GIG Cymru, fel y’i nodwyd yn natganiad y Gweinidog ar 30 Medi.
2. Yn cymeradwyo ymrwymiad Cymru’n Un i ddileu’r farchnad fewnol, y mae’r rhaglen yn bwrw ati i’w wneud.
3. Yn edrych ymlaen at weld rhyddhau adnoddau ar gyfer gwasanaethau rheng flaen, y bydd rhesymoli’r trefniadau rheoli iechyd yn ei sicrhau.
4. Yn cadarnhau’r ymrwymiad parhaus i Wasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru sy’n ataliol ac yn cael ei arwain gan ofal sylfaenol.
5.
Yn credu y dylid grymuso a chryfhau Cynghorau Iechyd Cymuned er mwyn darparu llais lleol yn y GIG.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
31 |
5 |
10 |
46 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
………………………………