09/10/2007 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (20)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 9 Hydref 2007
Amser: 2.00pm

2.00pm
Bu i Brif Weinidog Cymru longyfarch Syr Martin Evans ar ennill Gwobr Nobel 2007 ym maes meddygaeth am ei waith o ran celloedd bonyn.

………………………………

2.03pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.

...................................................



3.01pm
Cwestiwn brys 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

1. A wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad am y swyddi a gollwyd yn Woodhead Connectivity Cyf, Glyn Ebwy?

3.10pm
Cwestiwn brys 2 - Paul Davies (Preseli Sir Benfro)
2. Yn dilyn y ddamwain drist yn nherfynell LNG Aberdaugleddau, a yw’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai wedi cael trafodaethau am ddiogelwch ar y safle?


3.22pm
Cwestiwn brys 3 - David Melding (Canol De Cymru)

3. A wnaiff y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad am effaith y gweithredu diwydiannol gan staff y Post Brenhinol ar fusnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru?

...................................................

3.27pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

...................................................

3.56pm
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Ymgynghoriad ar y Cwricwlwm Ysgol  

...................................................

Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol: Strategaeth Datblygu Hawliau Dynol - TYNNWYD YN ÔL: i’w gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig

...................................................

4.35pm
Eitem 5: Datganiad gan y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Ailgyflunio’r GIG

...................................................

5.54pm
Cynnig trefniadol
Bu i Arweinydd y Ty roi cynnig trefniadol gerbron o dan Reol Sefydlog 7.26 i atal yr eitem nesaf o fusnes tan ddiwrnod i’w gadarnhau.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

...................................................

Eitem 6: Dadl i nodi’r ymgynghoriad ar Gynllun Gofodol Cymru - GOHIRIWYD

NDM3676 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn croesawu’r cynnydd o ran gweithredu Cynllun Gofodol Cymru ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 2004.

2. Yn cefnogi’r cynnig i gyhoeddi diweddariad i Gynllun Gofodol Cymru yn 2008.


Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
William Graham (Dwyrain De Cymru): TYNNWYD YN ÔL

Dileu popeth ar ôl ‘Cynulliad Cenedlaethol Cymru’ a rhoi’r pwyntiau a ganlyn yn lle hynny:

1. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gyflawni ei hymrwymiad blaenorol i ddiweddaru Cynllun Gofodol Cymru cyn diwedd y flwyddyn hon.

2. Yn mynegi pryder bod rhai Grwpiau Ardal Cynllun Gofodol eto i gynhyrchu ‘Datganiad Interim’ am eu cynnydd.

Daeth y cyfarfod i ben am 5.55pm.


...................................................

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 12.30pm ddydd Mercher, 10 Hydref 2007

Ysgrifenyddiaeth y Siambr