Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (104)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 13 Ionawr 2009
Amser: 1.30pm
Cynnig i atal y Rheolau Sefydlog
NDM4096 Dafydd Elis-Thomas
(Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 35.6 a 35.8:
Yn atal Rheol Sefydlog 7.18 (i) a’r
rhan honno o Reol Sefydlog 6.10 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 6.3 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r cynigion o
dan eitem 1 gael eu hystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 13 Ionawr 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
Eitem
1: Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgorau
NNDM4097 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Menter a Dysgu yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4098 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Iechyd, Lles a Llywodraeth Leol yn lle Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4099 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant yn lle Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4100 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn lle Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4101 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Cyllid yn lle Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4102 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Mike German (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn lle Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4103 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Jenny Randerson (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4104 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Peter Black (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes yn lle Kirsty Williams (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4105 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Mike German (Democratiaid Rhyddfrydol) yn aelod o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn lle Eleanor Burnham (Democratiaid Rhyddfrydol).
NNDM4106 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 10.3 yn ethol Janet Ryder (Plaid Cymru) yn aelod o’r Pwyllgor Is-ddeddfwriaeth yn lle Dai Lloyd (Plaid Cymru).
Derbyniwyd
y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
………………………
2.01pm
Eitem
2: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 5 a 7 eu grwpio.
………………………
2.38pm
Eitem
3: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
………………………
2.59pm
Eitem
4: Dadl ar y Setliad Llywodraeth Leol
NDM4087 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig
bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol ag Adran 84H o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988, yn cymeradwyo Adroddiad Cyllid Llywodraeth Leol (Rhif 1) 2009-2010 (Setliad Terfynol - Cynghorau) a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ac a anfonwyd mewn e-bost at Aelodau’r
Cynulliad ddydd Mawrth, 6 Ionawr 2009.
Yn unol â Rheol Sefydlog 7.19 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant a gyflwynwyd i’r cynnig hwn.
Gohiriwyd y bleidlais
ar y cynnig o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
36 |
0 |
16 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig
………………………
4.02pm
Eitem
5: Dadl ar gynigion y Cynllun Datblygu Cynaliadwy
NDM4088 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu bod ôl troed ecolegol Cymru’n parhau i dyfu.”
Cynhaliwyd
pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at yr oedi wrth gyflwyno’r Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Ddiogelu’r
Amgylchedd a Rheoli Gwastraff.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
36 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi penderfynu gohirio gweithredu Cynlluniau Trafnidiaeth
Rhanbarthol Cymru ac yn nodi y gallai hyn gael effaith andwyol ar gyflawni trafnidiaeth gynaliadwy yng Nghymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
36 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i wella a datblygu dangosyddion perfformiad allweddol
ac adrodd ar y rhain yn rheolaidd gerbron Pwyllgor Cynaliadwyedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru at ddibenion craffu.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4088 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu’r ymgynghoriad ar y Cynllun Datblygu Cynaliadwy, Cymru’n Un: Cenedl Un Blaned
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
42 |
0 |
10 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig.
………………………
4.44pm
Eitem
6: Dadl ar Foderneiddio Arolygu a Rheoleiddio
NDM4089 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu cynigion Llywodraeth y Cynulliad ar arolygu’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y nodir yn y Datganiad Polisi ar Arolygu, Archwilio a Rheoleiddio, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ar 26 Tachwedd 2008.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd
y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gobeithio y bydd y datganiad ymgynghori’n arwain at wella gwasanaethau cyhoeddus
yng Nghymru mewn modd y gellir ei ddiffinio a’i fesur.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ddangos ei bod yn ymgysylltu’n ehangach â
rhanddeiliaid perthnasol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
15 |
0 |
37 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gydnabod a chefnogi swyddogaeth hanfodol y sector gwirfoddol
o ran cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
16 |
0 |
36 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
NDM4089 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn croesawu cynigion Llywodraeth y Cynulliad ar arolygu’r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, fel y nodir yn y Datganiad Polisi ar Arolygu, Archwilio a Rheoleiddio, a gyhoeddwyd ar gyfer ymgynghoriad ar 26 Tachwedd 2008.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
42 |
0 |
10 |
52 |
Derbyniwyd y cynnig
5.17pm
Gohiriwyd y cyfarfod
5.22pm
Ailymgynullwyd
ar gyfer y cyfnod pleidleisio
Daeth y cyfarfod i ben am 5.25pm