Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (147)
Dyddiad: Dydd Mercher, 15 Gorffennaf
2009
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol
Cafodd cwestiynau 1 a 2 eu grwpio. Atebwyd y ddau gwestiwn.
.........................................
13.32
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Faterion Gwledig
Atebwyd y 9 cwestiwn cyntaf.
.........................................
14.11
Eitem
3: Cwestiynau i’r Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai
Gofynnwyd pob cwestiwn. Tynnwyd cwestiynau 1, 6, 9, 10 a 15 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 8 a 14 gan y Dirprwy Weinidog dros Dai. Ni ofynnwyd cwestiynau 11, 12 a 13.
.........................................
14.42
Eitem
4: Datganiad gan y Dirprwy Brif Weinidog a’r Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth: y Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol
.........................................
15.53
Eitem
5: Datganiad gan y Gweinidog dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Llywodraeth Leol ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ynghylch Cyngor Ynys Môn
.........................................
16.19
Eitem
6: Cynnig mewn perthynas â gwaith craffu Pwyllgor ar y Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol ar Briffyrdd a Thrafnidiaeth
NDM4267
Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionnydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.16(ii), yn cytuno na ddylai Gorchymyn arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cymhwysedd Deddfwriaethol) (Priffyrdd a Thrafnidiaeth) 2009 gael ei ystyried yn fanwl gan bwyllgor.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
16.27
Eitem
7: Protocol gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn unol â Rheol Sefydlog 1.13
NDM4271
Jeff Cuthbert (Caerffili)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn cymeradwyo Cod Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar wahanol rolau a chyfrifoldebau Aelodau etholaeth ac Aelodau rhanbarthol - drafftiwyd gan y Pwyllgor Safonau Ymddygiad yn unol â Rheol Sefydlog 1.13 ac fe'i osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Gorffennaf 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
16.31
Eitem
8: Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Leihau Allyriadau Carbon drwy Gynhyrchu Ynni
NDM4268
Mick Bates (Sir Drefaldwyn)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cynaliadwyedd ar Leihau allyriadau carbon wrth gynhyrchu ynni: Pedwerydd adroddiad ar ymchwiliad y Pwyllgor Cynaliadwyedd i leihau allyriadau carbon yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Mai 2009.
Nodyn: Gosodwyd ymateb y Gweinidog dros yr Amgylchedd, Cynaliadwyedd a Thai yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2009.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
17.12
Eitem
9: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig
NDM4270 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1) Yn nodi â phryder efallai nad oes gan seilwaith ffyrdd Cymru y buddsoddiad cyfalaf angenrheidiol sy’n ofynnol i ddiwallu anghenion strategol economi sy’n dod dros dirwasgiad.
2) Yn credu bod yn rhaid datblygu a chynnal cefnffyrdd rhwng y dwyrain a’r gorllewin fel blaenoriaeth allweddol os yw economi Cymru am wella ei safle GYC yng nghyswllt gweddill y DU.
3) Yn gresynu wrth yr oedi a gyhoeddwyd gan y Dirprwy Brif Weinidog o ran datblygu llwybrau prifwythiennol allweddol.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
30 |
42 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu’r cyfan a rhoi’r canlynol yn ei le:
"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1.
Yn croesawu cyhoeddi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ddydd Mercher, 15 Gorffennaf,
2.
Yn credu bod y cynllun yn sicrhau’r cydbwysedd cywir o gynlluniau trafnidiaeth integredig ar gyfer economi Cymru,
3.
Yn cadarnhau nad yw’r Llywodraeth Cynulliad hon wedi gohirio’r gwaith o ddatblygu llwybrau prifwythiennol allweddol.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
29 |
0 |
12 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) - gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Ym
mhwynt 1, dileu 'ffyrdd’
a rhoi 'trafnidiaeth’
yn ei le.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru) gan fod gwelliant 1 wedi’i dderbyn, cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.
Ym
mhwynt 2, dileu 'cefnffyrdd’
a rhoi 'seilwaith trafnidiaeth’
yn ei le.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4270 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn croesawu cyhoeddi’r Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol ddydd Mercher, 15 Gorffennaf,
2. Yn credu bod y cynllun yn sicrhau’r cydbwysedd cywir o gynlluniau trafnidiaeth integredig ar gyfer economi Cymru,
3. Yn cadarnhau nad yw’r Llywodraeth Cynulliad hon wedi gohirio’r gwaith o ddatblygu llwybrau prifwythiennol allweddol.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
0 |
12 |
42 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
18:17
Eitem
10: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
NDM4269 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r anawsterau ariannol a gweithredol sy’n wynebu Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ar hyn o bryd
2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i geisio:
(a) Darparu sicrwydd a sefydlogrwydd ariannol ar gyfer Gwasanaeth Ambiwlans Cymru,
(b) Cyflwyno ceisiadau cyfalaf i roi buddsoddiad mewn adnoddau gweithredol a seilwaith ar y trywydd cyflym,
(c) Adolygu nifer y gwelyau acíwt yn y lleoliadau prysuraf i helpu i leihau amseroedd aros ambiwlansys,
(d) Datblygu gwasanaethau brysbennu ffôn effeithiol ledled Cymru,
(e) Neilltuo darpariaeth ambiwlans gwledig.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
29 |
41 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Dileu’r cyfan a rhoi yn ei le:
"Mae
Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn nodi’r anawsterau ymarferol y mae Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru wedi’u hwynebu,
2.
Yn cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i
(a) helpu
i recriwtio cymaint o weithwyr ag a ganiateir ar lefel weithredol ac uwch,
(b)
sicrhau arbenigedd anweithredol ychwanegol,
(c) sefydlu gwaith partneriaeth agos i leihau
oedi cyn trosglwyddo cleifion,
(d) datblygu gwasanaethau
brysbennu ffôn effeithiol ledled Cymru,
(e) darparu
adnoddau cyfalaf a refeniw er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, sicrwydd a gwella gwasanaeth ym mhob rhan o Gymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
29 |
0 |
12 |
41 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i gymryd camau i sicrhau bod niferoedd digonol o ambiwlansys
â staff ar ddyletswydd i wella amseroedd ymateb a gofal i gleifion.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
29 |
41 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i ailystyried sut y mesurir perfformiad Gwasanaeth
Ambiwlans Cymru.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
30 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi mewn technoleg newydd a fydd yn fodd i
Wasanaeth Ambiwlans Cymru wella'i berfformiad.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
12 |
0 |
30 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
"Yn gresynu at y gostyngiad yn nifer y gwelyau sydd ar gael ac yn nodi’r pwysau
y mae hyn yn ei roi ar y Gwasanaeth Ambiwlans a'r adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.”
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
13 |
0 |
29 |
42 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:
NDM4269 Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
1. Yn nodi’r anawsterau ymarferol y mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru wedi’u hwynebu,
2. Yn cydnabod y camau a gymerwyd gan Lywodraeth y Cynulliad i
(a) helpu i recriwtio cymaint o weithwyr ag a ganiateir ar lefel weithredol ac uwch,
(b) sicrhau arbenigedd anweithredol ychwanegol,
(c) sefydlu gwaith partneriaeth agos i leihau oedi cyn trosglwyddo cleifion,
(d) datblygu gwasanaethau brysbennu ffôn effeithiol ledled Cymru,
(e) darparu adnoddau cyfalaf a refeniw er mwyn sicrhau sefydlogrwydd, sicrwydd a gwella gwasanaeth ym mhob rhan o Gymru.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
30 |
0 |
12 |
42 |
Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.
.........................................
19.04
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
19.08
Cynnig trefniadol
Symudodd Bethan Jenkins gynnig trefniadol yn unol â Rheol Sefydlog 7.26 i ohirio’r ddadl fer.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35
.........................................
Eitem 11: Dadl fer - gohiriwyd yr eitem hon
NDM4262 Bethan Jenkins (Gorllewin De Cymru):
Rhagdybiaeth yn Erbyn Cloddio Glo Brig yng Nghymru?
.........................................