Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (205)
Dyddiad: Dydd Mercher, 16 Mehefin
2010
Amser: 13.30
Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros y Gyllideb
Gofynnwyd y 7 cwestiwn cyntaf.
.........................................
14.17
Eitem
2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Dreftadaeth
Gofynnwyd yr 8 cwestiwn cyntaf. Cafodd cwestiynau 1 a 3 eu grwpio.
.........................................
Eitem 3: Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad
Ni chyflwynwyd yr un cwestiwn.
.........................................
14.51
Eitem
4: Datganiad gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru
.........................................
16.07
Eitem
5: Dadl ar Araith y Frenhines
NDM4495 Dafydd Elis-Thomas (Dwyfor Meirionydd)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi cynnwys rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU 2010/2011.
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i leihau'r baich treth incwm ar bobl yng Nghymru, a ledled y DU, drwy gynyddu'r lwfans treth personol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 2 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i sicrhau bod pensiwn sylfaenol y wladwriaeth yn cynyddu yn unol ag enillion, prisiau neu 2.5%.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
32 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 2.
Gwelliant 3 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi taliadau teg a thryloyw i'r rheini sydd â pholisi ag Equitable Life ac sydd wedi dioddef colledion.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 3.
Gwelliant 4 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i gynnal refferendwm ar y system Pleidlais Amgen ar gyfer etholiadau i Dŷ'r Cyffredin.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 4:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 5 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i roi'r hawl i bleidleiswyr alw eu AS yn ôl petai'n euog o gamymddwyn difrifol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 5:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 5.
Gwelliant 6 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu bwriad Llywodraeth y DU i ddiwygio Tŷ'r Arglwyddi gyda Thŷ sydd wedi'i ethol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar sail cynrychiolaeth gyfrannol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 6:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
18 |
0 |
33 |
51 |
Gwrthodwyd gwelliant 6.
Gwelliant 7 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ganslo cardiau adnabod a diddymu cyfreithiau diangen ac ymwthiol eraill.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 7:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 7.
Gwelliant 8 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i hawliau dynol sylfaenol drwy roi diwedd ar gadw plant at ddibenion mewnfudo.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 8:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 8.
Gwelliant 9 - Peter Black (Gorllewin De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu fframwaith ar gyfer rheoliadau ariannol sy'n sicrhau bancio cynaliadwy a chyfrifol.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 9:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
0 |
33 |
52 |
Gwrthodwyd gwelliant 9.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
---|---|---|---|
19 |
1 |
30 |
50 |
Gwrthodwyd y cynnig.
.........................................
18.26
Cyfnod
pleidleisio
.........................................
18.29
Eitem
6: Dadl fer
NDM4496 Peter Black (Gorllewin De Cymru):
Yr hawl i anadlu
.........................................
Daeth y cyfarfod i ben am 18.44.