18/03/2009 - Pleidleisiau a thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (121)

Dyddiad: Dydd Mercher, 18 Mawrth 2009
Amser: 1.30pm

Eitem 1: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Gyllid a Chyflenwi Gwasanaethau Cyhoeddus

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn 2 i’w ateb gan yn ysgrifenedig gan y Dirprwy Weinidog dros Adfywio. Cafodd cwestiynau 6 a 7 eu grwpio.

.........................................

2.08pm
Item 2: Cwestiynau i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau

Gofynnwyd y 9 cwestiwn cyntaf. Tynnwyd cwestiwn 1, 8 yn ôl ac atebwyd cwestiynau 4 a 6 gan y Dirprwy Weinidog dros Sgiliau.

.........................................

2.29pm
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau ar Gyllid i Fyfyrwyr Addysg Uwch

.........................................

3.37pm
Eitem 4: Dadl ar gynnig Jenny Randerson ar gyfer LCO - Cynlluniau Teithio Datblygiadau Mawr

NNDM4153 Jenny Randerson (Canol Caerdydd)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 22.50, yn cytuno y caiff Jenny Randerson gyflwyno Gorchymyn arfaethedig, i weithredu’r Gorchymyn arfaethedig amlinellol a ddarparwyd ar 23 Ionawr 2009 dan Reol Sefydlog 22.48, a Memorandwm Esboniadol.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

18

1

29

48

Gwrthodwyd y cynnig.

.........................................

4.13pm
Eitem 5: Dadl y Ceidwadwyr Cymreig

NDM4180 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r angen i siapio rhaglen cyfalaf Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn helpu i liniaru effaith yr argyfwng economaidd ar Gymru.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 1 - Peter Black (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod ei phroses gaffael yn rhoi chwarae teg i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru er mwyn iddynt allu rhoi cynnig am brosiectau cyfalaf.”

Derbyniwyd gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 7.35

Gwelliant  2 - Peter Black (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn credu y dylai prosiectau cyfalaf ysgolion ac ysbytai gael blaenoriaeth uwch na phrosiectau cyfalaf yn ystad Llywodraeth Cynulliad Cymru.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

16

0

29

45

Gwrthodwyd gwelliant 2.

Gwelliant 3 - Peter Black (Dwyrain De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn credu y dylai Llywodraeth Cynulliad Cymru ymrwymo i gynyddu faint o gyfalaf sydd ar gael i'w wario drwy weithio mewn partneriaeth â'r sector preifat a'r trydydd sector ar draws pob portffolio. "

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 3:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 3.

Gwelliant 4 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru) - Yn unol â Rheol Sefydlog 7.19 (iii), ni ddewiswyd y gwelliant hwn

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru’n galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i roi’r gorau i’r prosiect i uwchraddio ei phencadlys ym Mharc Cathays, a allai gostio £42 miliwn i’r pwrs cyhoeddus.”


Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4180 Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi’r angen i siapio rhaglen cyfalaf Llywodraeth Cynulliad Cymru yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn helpu i liniaru effaith yr argyfwng economaidd ar Gymru; a

2. Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i sicrhau bod ei phroses caffael yn rhoi chwarae teg i fusnesau bach a chanolig eu maint yng Nghymru er mwyn iddynt allu rhoi cynnig am brosiectau cyfalaf.

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

48

0

0

48

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

.........................................

5.16pm
Eitem 6: Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru

NDM4181 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu ei strategaeth trafnidiaeth gyda golwg ar roi blaenoriaeth uwch i gerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gwelliant 1 - Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)

Dileu "galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i adolygu” a rhoi yn ei le "nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi adolygu”.

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

15

48

Derbyniwyd gwelliant 1.

Gwelliant 2 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru):

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

"Yn gresynu wrth benderfyniad Llywodraeth Cynulliad Cymru i beidio â chefnogi datblygu Gorchymyn Cymhwysedd Deddfwriaethol arfaethedig ynghylch llwybrau di-draffig.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 2:

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

14

0

34

48

Gwrthodwyd gwelliant 2.



Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig wedi’i ddiwygio:

NDM4181 Peter Black (Gorllewin De Cymru)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi bod Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi adolygu ei strategaeth trafnidiaeth gyda golwg ar roi blaenoriaeth uwch i gerdded, seiclo a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Pleidleisiau a thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

33

0

14

47

Derbyniwyd y cynnig wedi’i ddiwygio.

.........................................

6.02pm
Cyfnod pleidleisio

.........................................

6.05pm
Eitem 7: Dadl fer

NDM4179 Lorraine Barrett (De Caerdydd a Phenarth):

Sut y gallwn ddileu masnachu mewn cŵn bach a ffermydd cŵn bach?

………………………………

Daeth y cyfarfod i ben am 6.31pm

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 1.30pm ddydd Mawrth 24 Mawrth 2009

Ysgrifenyddiaeth y Siambr