20/04/2010 - Pleidleisiau a Thrafodion

Cyhoeddwyd 07/06/2014   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2014

Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn

Pleidleisiau a Thrafodion (190)

Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Ebrill 2010
Amser: 13.30

Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru

Gofynnwyd y 12 cwestiwn cyntaf. Trosglwyddwyd cwestiwn 4 i’w ateb yn ysgrifenedig. Tynnwyd cwestiynau 5 ac 8 yn ôl.

………………………

14.19
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

………………………

14.39
Pwynt o drefn - Andrew RT Davies

Cododd Andrew R T Davies bwynt o drefn ynghylch sut y mae cyrff cyhoeddus yn ymdrin ag Aelodau’r Cynulliad yn ystod cyfnod ymgyrchu Etholiad Cyffredinol y DU. Cadarnhaodd y Llywydd na ddylid trin Aelodau’r Cynulliad yn wahanol yn ystod y cyfnod hwn gan nad oes etholiad y Cynulliad yn digwydd. Dywedodd y Llywydd y byddai’n mynd ar drywydd unrhyw achosion penodol gyda’r awdurdodau mwyaf priodol.

………………………

14.42
Eitem 3: Datganiad gan y Gweinidog dros Dreftadaeth: Adroddiad ar y cynnydd a wnaed o ran Ymrwymiadau Cymru’n Un mewn cysylltiad â’r Celfyddydau

………………………

15.14
Eitem 4: Datganiad gan y Gweinidog dros Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: y Strategaeth Addysg Cyfrwng Cymraeg

………………………

16.00
Eitem 5: Cynnig i gymeradwyo Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010  

NDM4454 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 24.4

Yn cymeradwyo bod y fersiwn drafft o’r Gorchymyn Deddf Cyfrifon Banc a Chymdeithasau Adeiladu Segur 2008 (Cyfyngiadau Rhagnodedig) (Cymru) 2010 yn cael ei lunio yn unol â’r fersiwn drafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 5 Mawrth 2010.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

16.03
Eitem 6: Penderfyniad Ariannol yn ymwneud â’r Mesur Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau)

NDM4450 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Mesur Arfaethedig Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Taliadau), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeirwyd ato yn Rheol Sefydlog 23.80(ii)(b) sy’n codi o ganlyniad iddi.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.

………………………

16.03
Eitem 7: Dadl ar Gynhwysiant Ariannol

NDM4455 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd yn erbyn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Cymru o ran mynd i’r afael ag allgáu ariannol a chynyddu gallu ariannol.

Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliant o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:

Gwelliant 1 - Alun Cairns (Gorllewin De Cymru)

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;

"Yn gresynu bod anghydraddoldeb incwm wedi cyrraedd y lefelau uchaf ers dechrau cadw cofnodion ac yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i flaenoriaethu gweithio gyda’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, y sector gwirfoddol a darparwyr addysg i gyflawni’r Strategaeth Cynhwysiant Ariannol.”

Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

10

0

29

39

Gwrthodwyd gwelliant 1.

Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig:

NDM4455 Jane Hutt (Bro Morgannwg)

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r cynnydd yn erbyn Strategaeth Cynhwysiant Ariannol Cymru o ran mynd i’r afael ag allgáu ariannol a chynyddu gallu ariannol.

Pleidleisiau a Thrafodion

O blaid

Ymatal

Yn erbyn

Cyfanswm

28

0

10

38

Derbyniwyd y cynnig.  

………………………

16.33
Cyfnod pleidleisio

Daeth y cyfarfod i ben am 16.35

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13.30 ddydd Mercher 21 Ebrill  2010.

Ysgrifenyddiaeth y Siambr