Y Trydydd Cynulliad - Cyfarfod Llawn
Pleidleisiau a Thrafodion (30)
Dyddiad: Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2007
Amser:
2.00pm
Eitem 1: Cwestiynau i Brif Weinidog Cymru
Gofynnwyd y 10 cwestiwn cyntaf.
...................................................
3.05pm
Cwestiwn brys - William Graham (Dwyrain De Cymru)
A wnaiff y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth ddatganiad am effaith y colledion swyddi arfaethedig yn Therma-Tru UK, Parc Nantgarw, Caerffili.
...................................................
3.13pm
Eitem 2: Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
...................................................
3.30pm
Eitem
3: Datganiad gan y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau: Addysg yn Sir Ddinbych
...................................................
4.03pm
Eitem
4: Dadl ar Adroddiad Blynyddol y Comisiynydd Plant
NDM3716 Carwyn Jones (Pen-y-bont ar Ogwr)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1 .Yn croesawu Adolygiad Blynyddol Comisiynydd Plant Cymru ar gyfer 2006-07; a
2. Yn nodi y bydd y Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau yn llunio ymateb gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad Cenedlaethol ar yr adolygiad hwn erbyn 31 Mawrth 2008.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 7.35.
...................................................